Rhwystrau i Ddatgeliad

Rydym wedi trafod y mathau gwahanol o ddatgeliadau yn barod a sut mae plant yn ceisio cysylltu â ni yn gyson, ac eisiau i ni ofyn iddynt os ydyn nhw’n iawn. Meddyliwch am pan mae pobl yn gofyn sut rydych chi; beth yw eich ateb chi fel arfer? Fy ateb i ydi, “Iawn, diolch”. Dyma’r ateb arferol sy’n dod allan o’n ngheg i heb i mi feddwl hyd yn oed. Dylem ofyn o leiaf ddwywaith bob amser sut maen nhw. Felly, os ydych chi wedi gofyn, “Sut wyt ti?” yna gallai rhai o’r cwestiynau dilynol gynnwys:

  • “Oes yna rhywbeth yn dy boeni?”
  • “Rwyt ti i weld yn bensyniol (‘distracted’) neu’n ddistaw. Wyt ti’n iawn?”
  • “Oes yna rhywbeth rwyt ti eisiau siarad amdano?”

Ceisiwch feddwl am wahanol ffyrdd i ofyn i berson sut maen nhw. Efallai na fyddwn yn gofyn ail gwestiwn yn syth, felly rhowch ychydig funudau o amser myfyrio iddynt. Os wnawn ni hyn gyda’r plant yr ydym yn eu haddysgu, byddant yn dod i arfer â ni’n dangos ein bod yn meddwl amdanynt, tra hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt i symud ymlaen i ddweud wrthym os oes rhywbeth yn eu poeni.

Soniais yn y blog Datgeliadau fod plant yn siarad gyda staff maen nhw’n ymddiried ynddynt – staff sy’n cymryd diddordeb ynddynt fel person. Yn y rhaglen ddogfen ddiweddar, The Real Mo Farah, mae Mo yn sôn am pan ddatgelodd ei fod yn cael ei fasnachu, a’i fod wedi gwneud hynny i’w athro ymarfer corff. Ei reswm dros ddewis ei athro ymarfer corff oedd, “Fel plentyn, rwyt ti’n gwybod pwy sy’n dda a phwy sydd ddim, dy reddf ydi hyn a’r ymddiriedaeth yna. Yn aml, rwy’n meddwl fy mod wedi ei weld o fel rhywun oedd ddim yn athro ymarfer corff yn unig, ond rhywun sydd wir yn malio. Roedd yn fy ngwahodd i ymuno â’r clwb athletau a’r clwb rhedeg ac yn fy annog i gymryd rhan.”

Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn cefnogi hyn, gan ddweud fod “Plant eisiau cael eu sylwi gan weithwyr proffesiynol cyfeillgar, sy’n ofalgar ac yn hawdd i fynd atynt, y maent wedi meithrin perthynas â hwy ac yn ymddiried ynddynt. Mae arnynt eisiau cael eu holi ynghylch sut maen nhw a beth sy’n mynd ymlaen, er mwyn iddynt gael cyfle i gael deialog agored.”

Gall rhwystrau eraill i ddatgelu gynnwys:

  • Plant ddim yn meddu ar yr eirfa gywir i fynegi’r broblem
  • Yr ymddygiad wedi cael ei normaleiddio
  • Nid ydynt yn deall yr hyn sy’n digwydd iddynt
  • Nid ydynt yn deall eu bod yn profi camdriniaeth

Mae rhai plant yn teimlo’n euog oherwydd eu bod yn teimlo mai eu bai nhw ydyw neu eu bod wedi annog y gamdriniaeth rhywsut. Ond, nid yw plentyn yn gyfrifol am y gamdriniaeth sy’n digwydd iddynt mewn unrhyw ffordd. Gall dioddefwr cam-drin hyd yn oed ofni bygythiadau o niwed iddynt hwy eu hunain, eu ffrindiau neu deulu os byddant yn datgelu’r gamdriniaeth.

Rhwystr arall i ddatgelu yw fod plant ddim eisiau rhoi’r baich ar rhywun arall, gan feddwl fod pobl yn rhy brysur i helpu. Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa fel athrawes ymarfer corff, yn un o’r ysgolion ble roeddwn yn dysgu, roedd y gampfa yn un pen o’r ysgol, a chwarter milltir i ffwrdd, ac i fyny dwy res o risiau, roedd fy ystafell ddosbarth i. Os byddai plentyn wedi fy stopio i ar fy ffordd i’n nosbarth i ddysgu a gofyn i mi os oedd gen i funud, fy ateb ar y pryd fyddai, “Dwi ar frys i’n ngwers, tyrd i’n ngweld i yn ystod yr amser egwyl neu ginio.”

Byddai hyn wedi cadarnhau cred y plentyn mod i’n rhy brysur, ac efallai na fyddent wedi ceisio siarad eto. Pe baent yn ceisio dod i lawr yn ystod amser cinio, efallai y byddwn i’n mynd i ffwrdd ar frys eto ar gyfer ymarfer trampolîn neu athletau. Mae’n hawdd edrych yn ôl, ond mae’n rhaid i ni ddysgu o’r gorffennol. Felly, gofynnaf i chi i gyd rwan, os yw plentyn yn gofyn i chi am funud, rhowch funud iddynt, hyd yn oed os yw hynny ddim ond er mwyn gweld beth maen nhw eisiau. Os gall aros, yna esboniwch, “Dwi ar fy ffordd i’n ngwers, dwi eisiau rhoi’r amser rwyt ti ei angen i ti, felly tyrd yn ôl i’n ngweld i ar ddechrau’r amser egwyl.” Os ydyw’n rhywbeth sydd angen eich sylw yn syth, yna mae’n rhaid i chi drefnu i rhywun arall fod yn gyfrifol am yr hyn yr oeddech am ei wneud, boed hynny’n wers addysgu, yn gyfarfod gyda rhiant neu’n un-i-un gyda phlentyn arall. Mae ysgolion angen systemau er mwyn galluogi i hyn ddigwydd.

Er mwyn annog plant i ddatgelu camdriniaeth, mae angen i ni fod yn i hawdd siarad â ni ac yn ofalgar, drwy feithrin diwylliant o ddidwylledd ac ymddiriedaeth yn yr ysgol, tra hefyd yn addysgu’r plant ynghylch yr hyn sy’n ymddygiad addas ar hyn sy’n ymddygiad anaddas. Mae angen i ni hefyd sicrhau fod plant yn deall ei bod hi’n iawn i siarad.

Dolenni defnyddiol:

https://www.csacentre.org.uk

https://www.bbc.co.uk/programmes/m001977f

Scroll to Top