
Am Jane Ashman
Jane Ashman Hyfforddiant Diogelu
“Rwyf yn angerddol am ddiogelu ac yn credu fod gan bawb rôl i chwarae er mwyn diogelu oedolion a phlant…”
Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn sefydliadau addysgol ers ennill fy Ngradd a Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gan Brifysgol Loughborough. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi dal nifer o rolau o fewn ysgolion a’r Awdurdod Lleol. Rwyf wedi ennill fy Nghymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) ac roeddwn i’n Bennaeth ar Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer plant â phroblemau ymddygiadol a phroblemau iechyd meddwl. Yn fy rôl gyda’r Awdurdod Lleol roeddwn yn gyfrifol am gynhwysiant yn ei ffurff ehangaf, oedd yn cynnwys ymddygiad, addysg gartref ddewisol, addysg heblaw am yn yr ysgol, presenoldeb, iechyd a diogelwch, trafnidiaeth ysgol, ymweliadau ysgol a diogelu.
Rwyf yn angerddol am ddiogelu ac yn credu fod gan bawb rôl i chwarae er mwyn diogelu oedolion a phlant. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi gweithio gyda nifer o asiantaethau, yn enwedig tra’r oeddwn yn Swyddog Dynodedig y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes. Roedd hyn yn golygu gweithio’n lleol a chyda’r Gwasanaethau Plant, yr Heddlu, Iechyd, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaethau Ieuenctid ac asiantaethau eraill. Roeddwn hefyd yn aelod o’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant ac wedyn gyda’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol (BDR) ar draws Gogledd Cymru.
Ers sefydlu Jane Ashman Limited rwyf wedi darparu hyfforddiant diogelu ledled Cymru a Lloegr yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddoedd addysg. Mae’r hyfforddiant rwyf yn ei ddarparu nid yn unig ar gyfer y sefydliadau addysgol, gellir eu teilwra hefyd ar gyfer unrhyw sefydliad, grŵp neu unigolyn sydd â rôl sy’n ymwneud â phlant. Yn ogystal â darparu fy nghyrsiau hyfforddiant fy hun rwyf hefyd yn hyfforddydd llawrydd i Pivotal Education.
Yn fy rolau blaenorol gyda’r BDR roeddwn yn gweithio’n agos gyda’r Is-Bwyllgor Adolygiadau Ymarfer Plant. Tra’n ymgymryd â’r rôl yma ymgymerais Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth plentyn. Gwnaeth hyn i mi fod yn fwy penderfynol i wella dealltwriaeth ac i arddangos y gall y gweithredu cywir achub bywydau. Rwyf yn defnyddio’r profiad hwn, yn ogystal â phrofiad o archwiliadau mwy diweddar i faterion disgyblu, yn ystod fy hyfforddiant, gan ddefnyddio’r profiad yma i ddarparu esiamplau dysgu real. Teimlaf fod yna lawer y gall staff a chyflogwyr ei wneud i ddiogelu eu staff a’r plant ac mae’r cyrsiau hyfforddi rwyf yn eu darparu’n anelu i gefnogi’r dysgu hwn drwy ddarparu esiamplau eglur o’m mhrofiad i yn ogystal â defnyddio gwybodaeth a phrofiad y rhai sy’n mynychu. Credaf eich bod yn dysgu’n barhaus yn y maes yma.

