Defnyddio Systemau Adrodd Electronig
Mae systemau adrodd diogelu ysgolion yn hanfodol i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad disgyblion rhag pob math o niwed, cam-drin neu esgeulustod. Mae’r systemau adrodd hyn yn darparu proses ffurfiol ar gyfer adrodd am bryderon, amheuon neu ddatgeliadau yn ymwneud â niwed a chamdriniaeth ac, yn yr ychydig flynyddoed diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr ysgolion sy’n ymuno â systemau cofnodi ar-lein.

