Ymgynghoriaeth Addysg

Hyfforddiant Diogelu Jane Ashman – Gwasanaethau

Os oes gennych brosiect tasg a gorffen yr ydych angen ei gwblhau, yna efallai y gallaf fod o gymorth.

Os ydych chi’n edrych am rhywun i adolygu a diweddaru eich polisïau, i adolygu eich darpariaeth Addysg Gartref Ddewisol, eich darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol neu weithdrefnau presenoldeb, gallaf gynnig hynny hefyd. Rwyf ar gael i helpu i lenwi swyddi gwag yn y tymor byr cyn i chi recriwtio ar gyfer deilydd parhaol i’r swydd. Mewn rolau blaenorol rwyf wedi bod â chyfrifoldeb am:

  • Addysg Gartref Ddewisol
  • Addysg Heblaw yn yr Ysgol
  • Ymddygiad
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cludiant Ysgol
  • Diogelu
  • Gwasanaeth Lles a Phresenoldeb
  • Pennaeth ar Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD)
  • Swyddog Addysg Uwchradd
  • Yn ystod y Pandemig Covid-19 bûm yn gweithio gydag awdurdod lleol i roi polisïau, gweithdrefnau a systemau yn eu lle ar gyfer eu hysgolion yn ystod y cyfnod heriol. Roedd hyn yn cynnwys:
  • Rhoi arweiniad lleol at ei gilydd ar gyfer canolfannau’r hybiau gofal.
  • Wrth i’r ysgolion ailagor, llunio atodiadau i’w prif bolisïau ysgol.
  • Ysgrifennu llyfryn ar gyfer penaethiaid oedd yn cynnwys tudalen crynodeb o’r ddogfen gyda gweithdrefnau a systemau ar gyfer rheoli plant a staff symptomatig, gofynion iechyd a diogelwch a.y.y.b.
  • Cysylltu gydag adrannau eraill o fewn yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau fod yr arweiniad a ddarparwyd ar gyfer y defnydd o offer diogelu personol (ODP), templedi asesiadau risg ar gyfer staff bregus a chwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch cludiant ysgol yn gywir ac yn cytuno â’r systemau a’r yswiriant corfforaethol, yr adrannau cyfrieithiol ac adnoddau dynol oedd yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gynhyrchu.

Rwyf yn berson sy’n ffocysu’n fawr ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd fwyaf effeithiol a realistig o ddatrys mater. Roedd hyn yn rhoi capasiti ychwanegol i’r awdurdod ac yn galluogi swyddogion eraill i ganolbwyntio ar feysydd penodol. Rwyf yn gallu cynnig gwasanaeth goruchwyliaeth ar gyfer DSL/PDD. Yng Nghymru mae goruchwyliaeth yn statudol ers cyhoeddiad canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2020.

Felly, os ydych chi’n edrych i adeiladu capasiti ychwanegol o fewn eich awdurdod am gyfnod byr o amser, yna cwblhewch y ffurflen gyswllt os gwelwch yn dda ac fe ddof yn ôl atoch i drafod eich anghenion unigol

Jane Ashman Safeguarding

Ymchwiliadau Annibynnol »

Scroll to Top