“Islaw pob ymddygiad mae yna deimlad. Ac islaw pob teimlad mae yna angen. A phan rydym yn diwallu’r angen hwnnw yn hytrach na ffocysu ar yr ymddygiad, rydym yn dechrau delio gyda’r achos, nid y symptom.”
Ashleigh Warner (Seicolegydd)
Nid ydynt wedi dweud gair – ond rydych yn gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn.
Rwy’n meddwl bod unrhyw un sydd wedi gweithio mewn ysgolion ers cyfnod sylweddol o amser wedi cael y teimlad hwnnw am blentyn. Yr ymdeimlad annifyr hwnnw bod rhywbeth wedi newid, er nad ydynt wedi dweud unrhyw beth wrthych yn uniongyrchol. Efallai mai’r disgybl ydyw sy’n penderfynu’n sydyn i wrthod mynd i glwb ar ôl ysgol, neu’r plentyn mae eu trefn arferol wedi ei darfu gan chwalfeydd anesboniadwy. Efallai mai’r disgybl ydw sy’n dechrau tynnu’n ôl o weithgareddau ysgol yr oeddent yn arfer bod yn hoff ohonynt.
Rydym wedi cael ein hyfforddi i wrando am ddatgeliadau ac, yn gyffredinol, rydym yn gwybod beth i’w wneud pan mae plentyn yn dweud, “Digwyddodd rhywbeth i mi.” Ond beth am pan na allent ei ddweud? Beth am pan mae datgeliad yn dod nid drwy eiriau ond drwy ymddygiad?
Mae hyn yn arbennig o hanfodol pan yn gweithio gyda disgyblion sydd â rhwystrau cyfathrebu, oediadau datblygiadol, neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgu arbennig (AAA). I’r plant hyn, ymddygiad yw’r datgeliad yn aml, ac mae angen i ni fod yn barod i’w glywed.
Deall Pam Na All Rhai Disgyblion Ddweud Wrthym
Mae nifer o resymau pam na allai plentyn, o bosib, ddatgelu neu godi pryder ar lafar:
- Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu sy’n ei gwneud yn anodd i fynegi profiadau neu emosiynau cymhleth
- Anableddau dysgu sy’n effeithio ar eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd iddynt neu sut maent yn ei fynegi
- Niwroamrywiaeth megis awtistiaeth neu ADHD, a allai effeithio ar eu gallu i adnabod, i brosesu, neu i gyfathrebu amdan brofiadau sydd wedi eu hypsetio
- Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), yn arbennig os nad oes ganddynt yr eirfa naill ai yn eu hiaith gyntaf neu’r Saesneg i ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd
Nid yn unig hynny, ond y tu hwnt i’r rhwystrau ymarferol o gyfathrebu, mae yna resymau dyfnach pam na fyddai plant yn datgelu:
- Efallai nad ydynt yn deall bod yr hyn sy’n digwydd iddynt yn anghywir neu’n niweidiol
- Efallai nad oes ganddynt yr eirfa i ddisgrifio’r cam-drin, yn enwedig cam-drin rhywiol
- Efallai bod y trawma wedi effeithio ar eu gallu i ffurfio naratif dealladwy amdan eu profiadau
- Ofni peidio â chael eu credu, neu o’r canlyniadau iddynt eu hunain neu eraill
Stori Mo Farah – atgoffâd pwerus
Yn y rhaglen ddogfen BBC The Real Mo Farah, datgelodd Sir Mo Farah ei fod wedi cael ei fasnachu i mewn i’r Deyrnas Unedig ac wedi profi camdriniaeth sylweddol pan yn blentyn. Nid oedd wedi dweud wrth unrhyw un ar y pryd – nid am nad oedd yn dioddef, ond oherwydd nad oedd yn gwybod y geiriau. Fel yr eglurodd, nid oedd ganddo’r iaith i ddisgrifio’r hyn oedd yn digwydd iddo.
Nid tan i athro addysg gorfforol sylwi bod rhywbeth ddim yn iawn ac estyn allan y dechreuodd y llanw droi. Gwnaeth y cysylltiad bach yna – dim ond un oedolyn yn cymryd sylw – y gwahaniaeth i gyd. Disgrifiodd Mo i ddewis datgelu i’w athro addysg gorfforol oherwydd, “Fel plentyn, rydych yn gwybod pwy sy’n dda a phwy sydd ddim, eich greddf a’ch hymddiriedaeth yw hynny. Yn aml, byddaf yn meddwl fy mod yn ei weld fel rhywun oedd nid yn unig yn athro addysg gorfforol ond fel rhywun oedd yn malio go iawn.”
Mae‘r stori hon yn argoffâd y gall sylwi newid bywyd. Ni ddisgwyliodd yr athro yna i Mo i ddod o hyd i’r geiriau iawn – fe sylwodd, fe faliodd, ac fe greodd y gofod cywir ar gyfer datgeliad.
Ymddygiadau Cyffredin A Allai Fod yn Ddangosyddion Diogelu
Mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r ymddygiadau hyn yn offerynnau diagnostig. Nid yw pob newid ymddygiadol yn arwydd o gam-drin. Er hynny, maent yn fflagiau coch sy’n haeddu ein chwilfrydedd proffesiynol a’n sylw:
- Newidiadau mewn patrymau ymddygiad sefydledig – dod yn encilgar, yn ymosodol, yn bryderus, neu’n anarferol o gydymffurfiol
- Ymddygiadau ailadroddus neu obsesiynol sy’n ymddangos yn newydd neu sydd wedi dwysau’n sylweddol
- Atchweliad – colli sgiliau roeddent wedi eu caffael yn flaenorol megis toiledu, siarad, neu galluoedd hunanofal
- Tarfu ar eu cwsg, gor-wyliadwraeth, neu’n cael eu dychryn yn hawdd – arwyddion o ddwysâd mewn straen neu drawma
- Ymddygiadau hunan-niweidiol – yn cynnwys taro’r pen, crafu neu ffurfiau eraill o hunan-anafu
- Osgoi pobl, llefydd, neu weithgareddau penodol – yn enwedig os roeddent yn eu mwynhau’n flaenorol neu os yw’r osgoad yn ymddangos i fod yn seiliedig ar ofn
- Ymddygiad neu iaith rhywioledig sy’n anaddas i gam datblygiadol y plentyn hwnnw/honno
Pan rydych yn sylwi ar y newidiadau hyn, gofynnwch i chi eich hun:
“Ydy hwn yn ymddygiad newydd, neu a oes rhywbeth wedi newid o ran pa mor aml mae’n digwydd neu pa mor ddwys ydyw pan mae’n digwydd?”
“Beth allai’r ymddygiad hwn fod yn ei gyfathrebu neu’n eu hamddiffyn rhagddo?”
“Beth arall sydd wedi newid ym myd y plentyn yma’n ddiweddar?”
Pam mae Datgeliadau sy’n Seiliedig ar Ymddygiad yn Cael eu Methu
Er gwaethaf ein bwriadau gorau, gall datgeliadau ymddygiadol gael eu methu neu eu diystyru’n aml. Mae hyn yn digwydd am nifer o resymau:
Rydym yn egluro’r ymddygiad. Pan mae gan blentyn ddiagnosis, mae’n hawdd priodoli pob ymddygiad i’r diagnosis hwnnw. Gall “Ei hawtistiaeth hi ydy hynny,” neu “Mae o wastad yn cael chwalfeydd” ddod yn esboniad diofyn sy’n ein hatal rhag edrych yn ddyfnach. Mae angen i ni barhau i fod yn chwilfrydig: hyd yn oed os yw plentyn wastad wedi bod ag ymddygiad heriol, beth sydd wedi newid sy’n golygu ei fod yn amlwg mewn ffordd wahanol y tro hwn? A yw’r amlder, y dwyster, neu’r patrwm yn wahanol?
Staff â diffyg hyder heb eiriau. Mae llawer o aelodau staff yn teimlo’n ansicr am adrodd ar bryderon sydd ddim yn seiliedig ar ddatgeliad llafar. Maent yn poeni am “ei gael yn anghywir” neu mynd yn rhy bell. Gall yr oedi hwn olygu bod pryderon hanfodol yn mynd heb eu hadrodd.
Ofni camfarnu’r sefyllfa. Mae staff sy’n gweithio’n agos gyda phlant sydd ag ADY/AAA yn aml yn teimlo’n amddiffynnol ac nid ydynt eisiau iddynt wynebu archwiliadau diangen. Tra mae hyn yn deillio o ofal a charedigrwydd, mae’n rhaid i ni gofio nad yw adrodd ar bryderon yn ymwneud â bod yn sicr – mae’n ymwneud â phasio gwybodaeth i’r rhai hynny sy’n gallu asesu ac archwilio’n briodol.
Lludded emosiynol. Pan mae staff yn gweithio gyda disgyblion sy’n cael heriau ymddygiadol yn aml, gall yr ymddygiadau hynny ddod yn sŵn cefndirol. Rydym yn addasu, rydym yn rheoli, rydym yn ymdopi – ac weithiau, trwy wneud hynny, rydym yn methu’r arwydd yn y sŵn.
Beth Gall Staff Ei Wneud Yn Wahanol
Trin newidiadau mewn patrymau fel achos posibl i bryderu. Mae hyd yn oed newidiadau bach yn ymddygiad nodweddiadol plentyn yn haeddu sylw. Mae hyn yn arbennig o wir i blant sydd ddim yn ei chael yn hawdd i ddweud wrthym beth sydd o’i le.
Anogwch pob staff i adrodd ar newidiadau. Cymorthyddion addysgu, staff cefnogol un i un, goruchwylwyr amser cinio, a chymorthyddion canol dydd sy’n aml yn treulio’r mwyaf o amser gyda disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol. Maent yn gwybod beth yw rhythmau ac arferion y plant hyn yn dda iawn. Crëwch ddiwylliant ble mae eu harsylwadau yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gweithredu arnynt.
Cofiwch nad yw cofnodion diogelu ar gyfer datgeliadau llafar yn unig. Dogfennwch newidiadau a phatrymau ymddygiadol. Dros amser, gall y cofnodion hyn ddatgelu gwybodaeth bwysig nad yw, o bosibl, yn ymddangos yn amlwg o ddigwyddiad unigol.
Defnyddiwch iaith “Dwi wedi sylwi…” Gall yr ymadrodd syml yma agor sgyrsiau pwysig:
- “Dwi wedi sylwi ei bod yn osgoi amser cinio’n ddiweddar
- “Dwi wedi sylwi ar fwy o chwalfeydd na’r arfer yn ystod trawsnewidiadau.”
- “Dwi wedi sylwi nad yw eisiau mynd i’w leoliad seibiant bellach.”
Mae’r iaith yma’n arsylwadol yn hytrach na chyhuddiadol, gan ei gwneud yn haws i staff i leisio eu pryderon.
Gweithiwch fel tîm. Dewch â’r CAAA/CADY, yr ADD/PDD, a’r timau dosbarth at ei gilydd i drafod pryderon. Efallai bod gwahanol aelodau staff wedi sylwi ar wahanol ddarnau o’r pos. Ond pan rydym yn rhannu gwybodaeth y gallwn weld y darlun llawn.
Ymddiriedwch yn eich greddf
Os yw rhywbeth yn teimlo’n anghywir, mae’n debyg ei fod o. Nid oes angen i chi wybod yn union beth sydd ddim yn iawn i adrodd ar bryder. Eich rôl chi yw i sylwi ac i adrodd – nid i archwilio neu i brofi.
UDRh Ysgol: Ydyn Ni’n Wirioneddol Gynhwysol Mewn Diogelu?
Mewn cyd-destun ehangach, dylai arweinwyr ysgol a thimau diogelu fyfyrio’n rheolaidd ar a yw eu systemau’n wirioneddol gynhwysol. Ystyriwch y cwestiynau hyn:
A yw ein systemau diogelu’n adlewyrchu anghenion cyfathrebu amrywiol ein disgyblion? Ydyn ni ond wedi paratoi i ymateb i ddatgeliadau llafar, neu a oes gennym brosesau clir ar gyfer ymateb i ddangosyddion ymddygiadol?
Ydyn ni’n paratoi staff ar gyfer dehongli ymddygiad fel cyfathrebu? A yw eich hyfforddiant diogelu yn mynd i’r afael ag anghenion penodol disgyblion gydag ADY/AAA? Ydyn ni’n helpu staff i ddeall sut y gallai trawma a cham-drin ymddangos yn wahanol mewn plant niwroamrywiol neu’r rhai hynny sydd â rhwystrau i gyfathrebu?
A yw ein DPP yn cysylltu diogelu ag ADY/AAA yn ystyrlon? Yn rhy aml, mae’r rhain yn cael eu trin fel llinynnau gwahanol o’r hyfforddiant. Mae angen eu hintegreiddio, er mwyn i’r holl staff ddeall bod yn rhaid edrych ar ddiogelu drwy lens gynhwysol.
Ydyn ni’n creu cyfleoedd ar gyfer chwilfrydedd proffesiynol? Oes gan staff amser a gofod i drafod pryderon amdan ddisgyblion, neu a ydynt wedi eu hymestyn gymaint mai ymateb i argyfyngau yn unig maent yn ei wneud?
Ydyn ni wedi sicrhau bod ein ADP/PDD yn deall anghenion amrywiol? Dylai’r person dynodedig diogelu fod â dealltwriaeth gryf o sut y gallai cam-drin ac esgeulustod ymddangos mewn plant sydd ag anghenion gwahanol, ac fe ddylent allu cefnogi staff i ddehongli dangosyddion ymddygiadol.
Dod o hyd i’r arwydd yn y sŵn
Gall datgeliad ddod mewn nifer o ffurfiau, ac mae’n rhaid i staff fod yn barod i sylwi, i ymddiried, ac i weithredu ar bob un ohonynt. I rai plant, ymddygiad yw eu hunig lais pan nad yw rhywbeth yn iawn. Ein cyfrifoldeb ni yw i ddysgu sut i’w clywed.
Cofiwch stori Mo Farah – sut y gwnaeth un oedolyn dibynadwy a sylwodd wneud pob gwahaniaeth. Ni ddisgwyliodd yr athro yna am y geiriau perffaith neu am ddatgeliad clir. Fe roddodd sylw, fe ddangosodd ei fod yn malio, ac fe greodd ddiogelwch.
Gallwch chi fod y person hwnnw/honno i blentyn yn eich hysgol chi.
Nid yw amdan bod yn iawn – mae amdan bod yn effro. Mae amdan trin cyfathrebiad pob plentyn, boed yn llafar neu’n ymddygiadol, fel bod yn deilwng o sylw a gofal. Pan rydym yn gwneud hyn, rydym yn creu diwylliannau diogelu cynhwysol ble mae pob plentyn, waeth beth yw eu gallu i gyfathrebu, yn cael eu clywed a’u hamddiffyn.
Daliwch ati i sylwi. Daliwch ati i adrodd. Daliwch ati i falio.
A cofiwch: pan mae ymddygiad yn newid, efallai eu bod yn ceisio dweud rhywbeth hanfodol wrthych. Ydych chi’n gwrando?
📌 Adnoddau Defnyddiol:
- Keeping Children Safe in Education (KCSIE) – Lloegr
- Cadw Dysgwyr yn Ddiogel
- Y Cod ADY Cymru (2021) – arweiniad ar ddiogelu cynhwysol
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- NSPCC: Safeguarding disabled children
- Centre of Expertise on Child Sexual Abuse
- Rhaglen ddogfen BBC: The Real Mo Farah
Noder: Mae’r blog yma’n defnyddio’r derminoleg ADD (Lloegr) a PDD (Cymru). Mae cyfeiriadau at ‘KCSIE’ i Loegr yn benodol; Dylai ysgolion Cymreig barhau i gyfeirio i ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel’ a’r ‘Cod ADY i Gymru’. Mae’r egwyddorion a drafodir yn berthnasol ar draws y ddwy wlad, er y gallai strwythurau adrodd fod yn wahanol yn ôl yr awdurdod lleol.
