
Llyfrgell Adnoddau
Hyfforddiant Diogelu Jane Ashman – Adnoddau
Croeso i’n llyfrgell adnoddau. Yma, rydym wedi anelu i greu casgliad o adnoddau, arweiniad cenedlaethol, erthyglau, rhifau llinellau cymorth, a.y.y.b, a phopeth mewn un lle ble gellir eu hidlo.
Mae’r llyfrgell yn cynnwys dogfennau ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr (cofiwch bod deddfwriaeth gwahanol o fewn y ddwy wlad felly bydd rhai darnau sydd ond yn berthnasol ar gyfer un wlad, ond, i fod yn onest, dylai unrhyw arfer dda yn un wlad gael ei ystyried gan ymarferwyr yn y wlad arall).
O ystyried hyn, y peth cyntaf fyddwn i’n ei wneud fyddai i ddewis yr opsiwn hidlo ‘perthnasol i’ ac wedyn chwilio o dan y math o adnodd, bwnc neu allweddair. Byddwn yn diweddaru’r llyfrgell yn barhaus gan ei fod yn gwreiddio o’n ‘Airtable’ i.
Os ydych wedi dod o hyd i unrhyw adnoddau fyddai’n ddefnyddiol i eraill, yna mae croeso i chi ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar fy nhudalen we a gyrru’r ddolen i mi ar ei gyfer. Gallaf wedyn ei ychwanegu i’r llyfrgell. Beth am ddefnyddio’n hamser yn gynhyrchiol, yn hytrach na gwastraffu oriau yn chwilio am bethau. Buaswn yn ddiolchgar iawn o unrhyw adborth gan fod yr ardal yma wedi ei chynllunio ar eich cyfer chi.
Mae’r mwyafrif o’r adnoddau wedi eu cynhyrchu gan sefydliadau eraill ac, fel canlyniad, efallai na fyddant ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan rwy’n cyfieithu deunydd fy hun, e.e. blog, bydd y deunyddiau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg bob amser.

