A Yw Eich Staff Yn Teimlo’n Ddiogel Hefyd?

A Yw Eich Staff Yn Teimlo’n Ddiogel Hefyd?

Pryd oedd y tro diwethaf i chi ofyn i’ch staff os ydynt yn teimlo’n ddiogel?

Gwn bod hwn yn swnio fel cwestiwn anarferol i’w ofyn i benaethiaid ac arweinwyr uwch, ond mae neges yma. Rydym yn treulio amser ac egni sylweddol yn sicrhau bod ein disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi, ac yn gallu lleisio eu pryderon. Rydym yn archwilio ein polisïau diogelu, yn hyfforddi ein staff i adnabod arwyddion cam-drin, ac yn creu diwylliannau ble mae plant yn teimlo’n gyfforddus i ddatgelu eu pryderon. Ond beth am yr oedolion yn ein hadeiladau?

Mae’r cwestiwn hwn wedi dod yn gynyddol bwysig i mi wrth i mi weithio ar draws ysgolion yng Nghymru a Lloegr. Dro ar ôl tro, rwyf wedi gweld sut mae llesiant staff yn cael effaith uniongyrchol ar effeithiolrwydd diogelu. Os ydym o ddifri am greu diwylliannau diogelu cynhwysfawr yn ein hysgolion, ni allwn fforddio esgeuluso diogelwch seicolegol ein staff.

Pam Bod Diogelwch Staff yn Bwysig i Ddiogelu

Mae staff sy’n teimlo’n anniogel, nad ydynt yn cael eu cefnogi, neu’n poeni am sgil-effeithiau yn llai tebygol o adrodd ar bryderon, boed hynny am ddisgyblion neu gydweithwyr. Maent hefyd yn llai tebygol o sylwi ar arwyddion rhybudd cynnar a allai atal niwed difrifol.

Os yw athro/athrawes wastad yn poeni am sicrwydd eu swydd, yn or-ofalus yng nghwmni arweinwyr uwch, yn teimlo’n ynysig ac yn ddi-gefnogaeth, faint o ofod meddyliol sydd ganddynt ar ôl i sylwi ar y plentyn distaw yna ym Mlwyddyn 7 y mae eu hymddygiad wedi newid ychydig? Pa mor debygol ydynt i leisio am ‘deimlad’ ynghylch ymddygiad cydweithiwr sy’n gwthio’r ffiniau os ydynt yn ofni cael eu labelu fel rhywun sy’n achosi trafferth?

Nid rhywbeth ‘neis’ i’w gael ar gyfer llesiant staff yw diogelwch seicolegol – y gred y gallwch ddatgan pryderon, gwneud camgymeriadau, a gofyn cwestiynau heb ofni canlyniadau negyddol. Mae’n ofyniad sylfaenol ar gyfer diogelu effeithiol.

Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn ein hatgoffa bod plant yn datgelu i oedolion maent yn ymddiried ynddynt, y maent yn teimlo sy’n ofalgar ac yn hawdd mynd atynt. Ni all yr oedolion hyn gyflawni’r rôl yma os nad ydynt yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn eu hamgylchedd proffesiynol.

Rhwystrau i Staff i Ddatgelu

O’m mhrofiad i o hyfforddi a chefnogi staff ysgolion, rwyf wedi adnabod rhwystrau cyffredin sy’n atal staff rhag siarad:

  • Ofni cael eu gweld fel ‘ddim yn ymdopi’ – yn arbennig o gyffredin ymhlith athrawon newydd sy’n poeni y byddai codi pryderon yn adlewyrchu’n wael ar eu cymhwyster
  • Ansicrwydd ynghylch sicrwydd swydd – yn arbennig o bryderus i’r rhai hynny ar gontractau dros dro neu mewn ysgolion sy’n wynebu pwysau ar eu cyllidebau
  • Dryswch ynghylch yr hyn sy’n cyfri fel pryder y dylid adrodd arno – yn enwedig ynghylch pryderon lefel-isel am ymddygiad cydweithwyr
  • Profiadau negyddol blaenorol – staff sydd wedi cael eu diystyru, eu hanwybyddu, neu wedi cael eu gwneud i deimlo’n wirion pan yn codi pryderon o’r blaen
  • Strwythurau adrodd aneglur – ddim yn gwybod os dylent fynd at eu rheolwr llinell, yr Arweinydd Diogelu Dynodedig / Person Diogelu Dynodedig, neu arweinwyr uwch
  • Ofni niweidio perthnasoedd – poeni am yr effaith ar ddeinameg neu gyfeillgarwch y tîm
  • Pryderon ynghylch cyfrinachedd – ansicrwydd ynghylch sut bydd gwybodaeth yn cael ei thrin a phwy fydd â mynediad i’r wybodaeth

Mae’r rhwystrau hyn yn real ac yn arwyddocaol. Maent yn atal adnabyddiaeth gynnar pryderon a allai amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed.

A Yw Eich Diwylliant Yn Creu Distawrwydd?

Fel aelodau ysgolion, mae angen i ni archwilio yn onest os allai ein diwylliannau fod yn creu distawrwydd o gwmpas pryderon.

Ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n gwybod pa mor ddiogel mae eich staff yn teimlo?
  • Pan mae pryderon yn cael eu codi – ynghylch disgyblion neu gydweithwyr – sut maent yn cael eu derbyn?
  • A yw’r negeseuwr yn cael eu diolch a’u cefnogi, neu ydynt yn wynebu cael eu cwestiynu sy’n teimlo mwy fel holiad?

Rwyf wedi arsylwi ysgolion ble mae staff yn amharod i gyfaddef eu bod yn ei chael yn anodd oherwydd eu bod wedi gweld cydweithwyr oedd wedi gofyn am gymorth yn cael eu symud i rolau eraill yn ddistaw bach. Rwyf wedi gweithio gyda thimau arwain sy’n ymfalchïo “nad oes ganddynt bryderon diogelu”, ble, o bosib, yr hyn sydd ganddynt yw diwylliant ble nad yw pryderon yn cael eu rhannu.

Nid yw materion ddim yn cael eu hadrodd yn golygu nad ydynt yn bodoli. Weithiau dylai’r diffyg adrodd ar bryderon fod yn bryder yn ei hun.

Adeiladu Diogelwch Seicolegol Staff

Mae creu diwylliant ble mae staff yn teimlo’n ddiogel i siarad angen gweithredu bwriadol, cyson gan yr arweinyddiaeth. Dyma gamau ymarferol a all wneud gwahaniaeth go iawn:

  • Modelwch fregusrwydd fel arweinwyr. Rhannwch eich cyfnodau o ddysgu eich hun a’r amseroedd pan rydych wedi gwneud camgymeriadau. Pan mae arweinwyr yn cydnabod eu ffaeledigrwydd, mae’n rhoi’r caniatâd i eraill i fod yn ddynol hefyd.
  • Normaleiddiwch oruchwyliaeth broffesiynol a gofodau adlewyrchol. Tra mae KCSIE yn Lloegr a Cadw Dysgwyr yn Ddiogel yng Nghymru’n cyfeirio at bwysigrwydd cefnogaeth i staff, y realiti yw bod diffyg strwythurau goruchwyliaeth ffurfiol mewn llawer o ysgolion. Crëwch amser rheolaidd, wedi’i amddiffyn, i staff i adlewyrchu ar eu harfer a’u pryderon heb iddo fod ynghlwm i reoli perfformiad.
  • Gwnewch wiriadau llesiant staff yn arfer, nid fel ymateb i argyfwng. Peidiwch â disgwyl i broblemau ymddangos cyn gofyn i staff sut maent yn teimlo. Gall sgyrsiau ac arolygon rheolaidd adnabod materion cyn iddynt waethygu a dangos bod gan yr arweinyddiaeth ots go iawn am brofiadau staff.
  • Dathlwch yr adrodd, nid y deilliannau’n unig. Pan mae staff yn codi pryderon, cydnabyddwch eu proffesiynoldeb a’u dewrder. Gwnewch yn glir bod siarad yn cael ei werthfawrogi, boed y pryder yn arwain i weithredu ffurfiol neu beidio. Mae hyn yn gyrru neges pwerus am werthoedd eich ysgol.
  • Darparwch arweiniad eglur a nifer o lwybrau i adrodd. Sicrhewch bod yr holl staff yn deall beth sy’n cyfri fel pryder sydd werth adrodd arno, a darparwch nifer o lwybrau ar gyfer codi’r pryderon hyn. Bydd rhai staff yn teimlo’n gyfforddus gyda’u rheolwr llinell, efallai y bydd yn well gan eraill y PDD/ADD neu lwybr allanol.
  • Dilyn i fyny a dilyn drwodd. Pan mae staff yn codi pryder, hysbyswch hwy am yr hyn sy’n digwydd nesaf (o fewn terfynau cyfrinachedd). Mae staff sy’n codi pryderon ac yn clywed dim byd wedi hynny yn llai tebygol o adrodd eto.

Yn ystod archwiliad diweddar mewn ysgol yng Nghymru, gwelais sut mae diwylliant sy’n ddiogel yn seicolegol yn edrych yn weithredol. Tra’n siarad gyda staff, roeddent yn cyfeirio’n rheolaidd at yr ysgol fel “teulu”. Nid rhetoreg oedd hyn – roeddent yn teimlo’n wirioneddol hyderus y gallent godi unrhyw bryder ynghylch disgyblion neu gydweithwyr, yn gwybod y byddai’r unigolyn yn cael eu cefnogi’n iawn. Roedd y PDD wedi sefydlu arfer o fwydo’n ôl i staff mor fuan â phosibl yn dilyn adrodd ar unrhyw bryder, fel bod aelodau staff yn gwybod bod gweithredu wedi digwydd ac nad oeddent yn treulio eu gyda’r nosiau neu benwythnosau yn poeni am beth allai ddigwydd nesaf. Efallai yn fwyaf arwyddocaol, pan ofynnais i’r staff ers faint roeddent wedi gweithio yn yr ysgol, roedd yr atebion yn cynnwys, “20+ mlynedd a dal wrth fy modd gyda’n ngwaith.” Dyma’r math o ddiwylliant ble gall plant ac oedolion ffynnu – a ble mae diogelu’n cael ei wreiddio’n wirioneddol yn yr arfer ddyddiol yn hytrach na’n faich ychwanegol.

Pwynt i Adlewyrchu: Pa Negeseuon Ydych Chi’n Eu Gyrru?

Cymerwch ennyd i ystyried y cwestiynau hyn yn onest:

  • Pan mae aelod staff yn codi pryder gyda chi – beth sy’n digwydd nesaf? A ydynt yn gadael yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed a’u cefnogi, neu’n nerfus am y canlyniadau posibl?
  • A yw eich tîm yn hyderus y byddant yn cael eu cefnogi os gwnaethon nhw gamgymeriad neu os byddent angen cymorth gyda sefyllfa heriol?
  • Petai aelod staff newydd yn dechrau yn eich ysgol yfory, a fyddent yn gwybod at bwy i fynd os byddai rhywbeth yn teimlo’n anghywir – ac a fyddent yn teimlo’n hyderus i wneud hynny?
  • Pa mor hygyrch yw eich polisïau a’ch gweithdrefnau? A ydynt wedi eu claddu mewn dogfennau hirfaith nad oes unrhyw un yn eu darllen, yntau a ydynt yn cael eu cyfathrebu’n  glir a’u trafod yn rheolaidd?
  • Pa mor aml ydych chi’n gwirio’n weithredol gyda’ch staff ynghylch eu llesiant, yn hytrach na disgwyl iddynt i ddod atoch chi?

Yr Effaith Tonnog

Mae buddion sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i lesiant unigol o greu diogelwch seicolegol i staff. Pan mae oedolion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, maent yn fwy abl i:

  • Sylwi ar ac ymateb i bryderon disgyblion yn fwy effeithiol
  • Fodelu deinameg perthnasoedd iach ar gyfer pobl ifanc
  • Gydweithio’n fwy agored gyda chydweithwyr ac asiantaethau allanol
  • Gynnal y gwytnwch emosiynol sydd ei angen ar gyfer y proffesiwn heriol hwn
  • Aros mewn addysgu yn hirach, gan roi sefydlogrwydd i ddisgyblion

Mae ysgolion gyda diwylliannau sy’n seicolegol ddiogel yn gweld gwelliannau nid yn unig wrth gadw eu staff a’u llesiant, ond yn ansawdd yr arfer diogelu yn gyffredinol.

Symud Ymlaen

Mae diwylliannau diogelu sy’n eithrio llesiant staff yn anghyflawn ac, yn y pen draw, yn aneffeithiol. Ni allwch amddiffyn plant yn llawn os nad yw’r oedolion sy’n gyfrifol am eu gofal yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn yn llawn eu hunain.

Fel arweinwyr, gallwn greu amgylcheddau ble mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n wirioneddol, ac yn teimlo’n ddiogel i godi pryderon.

Dechreuwch trwy gael sgyrsiau gonest gyda’ch staff am sut maent yn teimlo. Gwrandewch go iawn ar eu hymatebion. Edrychwch ar eich data mewn ffordd wahanol – pa straeon mae graddfeydd absenoldeb, heriau recriwtio, a chyfweliadau ymadael yn eu dweud am eich diwylliant?

Ystyriwch gynnal arolygon dienw ynghylch diogelwch seicolegol a diwylliant adrodd yn benodol. Efallai y bydd y cwestiynau’n teimlo’n anghyfforddus, ond fe allai’r atebion fod yn drawsnewidiol.

Cofiwch, mae diogelu’n berthnasol i bawb ac mae hynny’n cynnwys diogelu ein gilydd.  


📌 Adnoddau Defnyddiol:

Noder: Mae’r blog hwn yn defnyddio’r derminoleg ADD (Lloegr) a PDD (Cymru drwyddo draw. Mae cyfeiriadau i KCSIE yn benodol i Loegr, tra mae Cadw Dysgwyr yn Ddiogel yn berthnasol i Gymru. Dylai arweinyddion ysgol addasu’r awgrymiadau ymarferol i ffitio eu harweiniad awdurdod lleol a fframweithiau cenedlaethol.

Scroll to Top