Pam Rwy’n Cynnwys ‘Magu Perthynas Amhriodol’ yn yr Hyfforddiant Diogelu Nawr

Mae ‘magu perthynas amhriodol’ yn derm mae llawer ohonom yn ei ddefnyddio pan yn siarad am ddiogelu a gweithredoedd y rhai hynny sydd am gam-drin plant. Fe wnes i’r camgymeriad o dybio fod staff yn deall cymhlethdod ‘magu perthynas amhriodol’ ac, felly, nid oeddwn erioed wedi ei gynnwys mewn manylder yn ystod fy hyfforddiant.  

Roedd hynny nes i mi fynychu sesiwn gyda Paul Stewart, cyn chwaraewr pêl-droed proffesiynol i Loegr. Eglurodd, “Mae pobl wedi gofyn i mi beth allent fod wedi ei wneud i fy helpu i ddatgelu yn gynt, ond i fod yn onest, ni allent fod wedi gwneud dim unwaith roedd y cam-drin wedi dechrau. Ond, pe bawn i wedi cael fy addysgu ynghylch sut roedd ‘magu perthynas amhriodol’ yn edrych a’r hyn mae’r unigolion yma yn ei wneud er mwyn magu perthynas amhriodol, yna efallai y byddwn i wedi dweud rhywbeth yn gynt o lawer.”

Aeth Paul ymlaen i esbonio fod ei gamdriniwr hefyd wedi magu perthynas amhriodol gyda’i deulu, gan sicrhau nad oedd gan Paul unrhyw un y gallai droi atynt.

Ysgogodd hyn fi i fod eisiau newid pethau i helpu plant, i ddysgu mwy am fagu pethynas amhriodol a sut i’w adnabod yn gynt. Sylweddolais, er mwyn helpu plant i ddeall, fod yn rhaid i staff ddeall yn gyntaf. Daeth y model a ddewisais o Boys and Young Men at Risk of Sexual Exploitation – A Toolkit for Professionals, sy’n cynnwys saith cam. Cofiwch, fodd bynnag, na fydd pob sefyllfa yn cynnwys yr holl gamau.

Cam 1: Targedu

Disgrifiodd un o’n ngyfranogwyr i ar gwrs y cam yma fel stelcian a dewis rhywun sydd eisiau neu angen rhywbeth. Mae’r drwgweithredwyr wedyn yn defnyddio’r ‘eisiau’ neu’r ‘angen’ hwnnw i’w mantais eu hunain. Bydd y drwgweithredwyr yn dysgu popeth am fywyd eu dioddefwr, ble maen nhw’n mynd, beth maen nhw’n ei hoffi, yng nghwmni pwy maen nhw’n treulio eu hamser, ac yn y blaen.

Cam 2: Cysylltu

Nid yw hyn yn gyfarfod / gysylltiad sy’n digwydd ar hap; mae wedi ei gynllunio’n berffaith gan y drwgweithredwr yn seiliedig ar y wybodaeth maent wedi ei gasglu yn ystod Cam 1 ac fe all hyn fod ar-lein neu oddi ar lein.

Cam 3: Cadw Cysylltiad

Wedi’r cysylltiad cychwynnol, mae’r drwgweithredwr yn sicrhau eu bod yn cadw cysylltiad gyda’r dioddefwr. Efallai y bydd hyn, eto, wedi ei dargedu tuag at beth mae’r dioddefwr eisiau neu angen, megis benthyca arian iddynt neu gynnig lifft iddyn nhw, a.y.y.b.

Cam 4: Ymddygiadau Positif Canfyddedig

Hwn yw’r cam mae pawb bob amser yn ei grybwyll mewn hyfforddiant, ac mae’n ymwneud â’r drwgweithredwr yn datblygu perthynas gyda’r dioddefwr er mwyn iddynt ymddiried ynddynt a throi atynt os ydyn nhw angen unrhywbeth. Gall hyn amrywio o roi lle i rhywun aros, i ganmol rhywun neu adael iddynt ymuno â’u grŵp neu roi anrhegion iddynt.

Cam 5: Ymddygiadau Negyddol

Dyma lle mae’r drwgweithredwr eisiau gweld yn union faint o reolaeth sydd ganddynt dros y dioddefwr. Bydd y drwgweithredwr yn gweld beth sy’n digwydd pan maen nhw’n cyffwrdd y dioddefwr yn rhywiol, yn eu cael i ddwyn rhywbeth, i gymryd cyffuriau, yn eu hynysu o’r grŵp neu’n gyrru lluniau noeth neu ‘luniau pidyn’ iddynt.

Drwy gydol hyn, mae’r drwgweithredwr yn gwylio i weld beth yw’r ymateb maent yn ei gael gan y dioddefwr. Os caiff y drwgweithredwr yr ymateb y mae ei eisiau, bydd wedyn yn symud ymlaen i Gam 6. Os yw’r dioddefwr yn gwrthod neu’n herio’r drwgweithredwr, bydd y drwgweithredwr yn honi mai jôc oedd hi, gan ddweud nad oedd o ddifrif, gan wneud i’r dioddefer deimlo’n wirion am gamddeall. Yna, byddant yn dychwelyd i Gam 4 i geisio datblygu’r berthynas ymhellach.

Cam 6: Rheoli ac Atgyfnerthu

Gall y dull rheoli amrywio, yn dibynnu ar y rheswm am y magu perthynas amhriodol (boed hynny i ecsbloetio’r dioddefwr yn droseddol, yn berthynas cam-drin domestig, neu i ecsbloetio’n rhywiol a.y.y.b.). Byddai esiamplau’n cynnwys bygwth i frifo teulu’r dioddefwr neu bobl sy’n agos iddyn nhw, gwneud iddynt deimlo’n euog mai eu bai nhw ydi popeth, blacmelio (yn enwedig os oes ganddynt luniau / fideos anweddus o’r person), bygwth dweud wrth yr heddlu / teulu, neu bostio ar y wê am rhywbeth mae’r dioddefwr wedi ei wneud. Gallent fod yn pwysleisio pa mor lwcus yw’r dioddefwr i gael y drwgweithredwr yn eu bywyd a chymaint gwell yw eu bywyd rwan o’i gymharu ag o’r blaen.  

Cam 7: Ecsbloetiaeth

Mae’r drwgweithredwr yn defnyddio’r dioddefwr er ei fudd ei hun, boed hynny’n rhywiol, yn ariannol neu fel arall.

Crynodeb o’r camau uchod fyddai:

  • Targedu
  • Profi
  • Trapio

Bydd drwgweithredwyr hefyd yn magu perthynas amhriodol gyda’r teulu a chydweithwyr i gael yr hyn maen nhw eisiau. Mae’r postiad blog ‘Pryderon Lefel Isel Ynghylch Ymddygiad Staff’ yn edrych ar y mater yma mewn mwy o fanylder.

Mae’n hanfodol fod staff yn cael sgyrsiau agored gyda phlant a bod y plant yn gwybod y gallent ddod i siarad gyda’r staff am unrhyw beth o gwbl. Mae’n rhaid i staff barhau i fod yn anfarnol a bod yna bob amser i helpu ac i gefnogi.

Am fwy o adnoddau yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol, beth am edrych ar fy llyfrgell adnoddau chwiliadwy, neu cysylltwch â mi i drefnu sgwrs am sut y gallwn eich helpu chi a’ch lleoliad.

Scroll to Top