Torri’r stereoteipiau: Sut mae statws economaidd-gymdeithasol yn cuddio realiti esgeulustod a chamdriniaeth

Herio’r credoau: Pam nad yw camdriniaeth ac esgeulustod yn gwahaniaethu yn ôl dosbarth cymdeithasol

Yn dilyn sesiwn heddiw, meddyliais am y syniadau sydd gan bobl pan yn ystyried diogelu. Heddiw, roedd y drafodaeth yn ymwneud â dalgylchoedd a statws economaidd-gymdeithasol y rhieni. Dywedwyd wrthyf eu bod yn ffodus oherwydd bod y rhieni, yn gyffredinol, i gyd yn weithwyr proffesiynol, megis meddygon a chyfreithwyr.

Yn ystod y sesiwn hyfforddi, edrychasom ar bwy allai gael eu cam-drin a phwy allai fod yn gamdrinwyr. A’r ateb i’r ddau? Unrhyw un. Mynychais gynhadledd y llynedd, ac roedd un o’r sesiynau yn ymwneud â phroffilio gwylwyr Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol (Child Sexual Abuse Material / CSAM). Daeth y proffil yn ôl fel rhywun oedd â gradd ac o statws proffesiynol. Mae hyn yn synnu pobl fel arfer, gan ei fod yn herio ein cred na fyddai hyn yn digwydd yn y lle rydym ni’n byw.

Rwyf wedi bod â ffrindiau sy’n swyddogion heddlu sydd wedi profi camdriniaeth domestig yn eu bywyd personol. Fel rhan o’r hyfforddiant Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gofyn a Gweithredu (Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (VAWDASV) Ask and Act), gofynnwn am farn ar y sylw â ganlyn:

“Er fod ‘VAWDASV’ yn croesi ar draws pob dosbarth cymdeithasol, mae’n fwy cyffredin mewn cymunedau tlotach.”

Mae’n bwysig nodi bod camdriniaeth domestig yn digwydd i bobl ar draws pob dosbarth cymdeithasol a chefndir economaidd-gymdeithasol. Gall tlodi fod yn ffactor o ran gwelededd, e.e., mae pobl o gefndiroedd mwy cefnog yn llai tebygol o geisio mynediad i gymorth neu gefnogaeth neu alw’r heddlu oherwydd eu bod yn ofni y bydd yn effeithio ar eu statws neu eu gyrfa. Mae stigma o ofni beirniadaeth.

Ond, mae byw mewn llety dwysach, megis fflatiau neu dai teras, yn golygu os yw digwyddiad yn cymryd lle, fod y cymdogion yn fwy tebygol o glywed ac adrodd arno na pe buasech yn byw mewn eiddo sydd yn sefyll yn ei erddi ei hun.

Mae esgeulustod y cefnog (affluent neglect) yn derm sy’n cyfeirio at yr esgeulustod a brofir gan blant o deuluoedd cyfoethog. Gall yr esgeulustod gynnwys rhieni ddim yn yn truelio amser o safon gyda’u plant tra’n rhoi pwysau uchel arnynt i lwyddo’n academaidd. Gall y ddau beth yma arwain i broblemau seicolegol ac emosiynol i blant. Esiampl arall fyddai rhieni cyfoethog gydag agwedd mwy hamddenol tuag at y risgiau mae eu plant yn eu cymryd, megis cyffuriau a phartïon, oherwydd diffyg goruchwyliaeth gan y rhieni, a’u bod, o ganlyniad, efallai ddim yn ymwybodol o weithrediadau eu plant.

Mae’n rhaid i ni fabwysiadu yr agwedd y gallai ddigwydd i unrhyw un: meddyliwch yr annychmygol.

Scroll to Top