A oes angen i ni wybod beth yw’r gwahanol gatergorïau o gamdriniaeth?
Yng Nghymru, mae 5 categori ar gyfer camdriniaeth sydd yr un fath ar gyfer oedolion a phlant. Corfforol, emosiynol, rhywiol, esgeulustod ac ariannol yw’r rhain. Yn Lloegr, mae 4 categori ar gyfer camdriniaeth plant (corfforol, rhywiol, esgeulustod ac emosiynol) a 10 categori ar gyfer camdriniaeth oedolion (corfforol, rhywiol, emosiynol, domestig, gwahaniaethol, ariannol, esgeulustod neu weithredoedd o anwaith, caethwasiaeth fodern, camdrin sefydliadol neu hunan-esgeulustod).
Fel rhywun sy’n gweithio gyda phlant o ddydd i ddydd, oes angen i mi wybod am y categorïau hyn?
Yn sicr mae angen ymwybyddiaeth o’r gwahanol gategorïau, ond pan yn cofnodi ac yn adrodd ar bryderon, nid oes angen i chi ddatgan yn union pa gategori o gamdriniaeth sy’n cymryd lle. Nid oes rhaid i chi adnabod yr holl arwyddion a dangosyddion, megis newidiadau mewn ymddygiad, newidiadau mewn grwpiau cyfeillion, newidiadau mewn agwedd / cymhelliant, ymddygiad a iaith rhywioledig a marciau a chleisiau. Y peth pwysicaf yw eich bod wedi adnabod ac wedi adrodd ar arwyddion o gamdriniaeth, felly peidiwch da chi a gadael i’r categorïau fod yn rhwystr i chi rhag adrodd ar bryderon am les plentyn.
Felly pam mae’r categorïau camdriniaeth yn bodoli?
Defnyddir y categorïau yn y broses aml-asiantaeth o’r enw’r Gynhadledd Amddiffyn Plant. Dyma ble mae ymholiadau Adran 47 wedi bod i benderfynu os yw plentyn mewn perygl neu’n profi camdriniaeth. Fel rhan o’r Gynhadledd Amddiffyn Plant, mae’n rhaid i’r asiantaethau hynny sy’n bresennol wneud penderfyniad os ydynt yn parhau i ystyried fod y plant / plentyn mewn perygl neu’n profi camdriniaeth. Os mai’r ateb yw ‘ydi’, yna bydd y plentyn / plant yn cael eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Ar yr adeg yma, bydd cadeirydd y gynhadledd yn gofyn i’r asiantaethau o dan pa gategori mae’r plentyn i gael ei gofrestru. Wedyn, mae’n rhaid i bob asiantaeth geisio penderfynu beth yw prif achos y gamdriniaeth a’r categori ble mae hwn yn cael ei gynnwys.
Allwch chi roi plentyn o dan mwy nag un categori?
Gellir rhoi plentyn / plant o dan mwy nag un categori, ond ni annogir hyn. Y prif reswm yw ei fod yn cael ei gydnabod fod un categori o gamdriniaeth yn gallu effeithio ar fath arall o gamdriniaeth, e.e. mae plentyn sy’n cael ei gamdrin yn gorfforol yn debygol iawn o ddioddef camdriniaeth emosiynol hefyd. Y syniad yw, mai drwy ganolbwyntio ar brif achos y gamdriniaeth a gweithio gyda’r plentyn / plant a’r teulu i wella’r sefyllfa, y bydd hyn hefyd yn effeithio ar y math eilradd o gamdriniaeth.
Felly beth am faterion diogelu penodol, megis Camfanteisio Troseddol ar Blant (CCE), Camfanteisio’n Ariannol ar Blant (CFE), Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB) ac Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod (FGM)?
I adrodd ar y mathau hyn o gamdriniaeth, byddai angen i chi ddatgan:
- Beth yn union yr ydych wedi sylwi arno sy’n achosi pryder i chi
- Beth oedd eich pryderon am y plentyn / plant
- Beth sydd yn eu rhoi mewn perygl neu sy’n dangos eu bod yn profi camdriniaeth
Os ydych chi’n pryderu am CFE ac am adrodd ar arwyddion o gamdriniaeth, mae rhyddid i chi ddefnyddio’r union derm. Pan ddaw i’r Gynhadledd Achos, byddai angen i’r asiantaethau sy’n bresennol gategoreiddio’r math o gamdriniaeh o dan un o’r prif gategorïau.

