Pam fy mod yn angerddol am ddiogelu

Blaenoriaeth gyntaf addysgydd yw lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol y plant sydd dan eu gofal. Mae hyn nid yn unig yn ddyletswydd moesol, ond hefyd yn un cyfreithiol, un sydd yn mynd y tu hwnt i’r cyfrifoldeb i addysgu meddyliau ifanc.

Byddaf yn meddwl yn aml am sut arweiniodd fy ngyrfa addysgu arwain at weithio i mi fy hun ac i fod mor angerddol am ddiogelu. Wrth feddwl yn ôl i’n hyfforddiant ac i ddechrau fy ngyrfa addysgu yn y 1990au, nid oes gennyf gof o unrhyw sôn am les amddiffyn plant na pholisïau diogelu. Roeddwn yn sicr yn delio â materion a datgeliadau, ond yn y dyddiau hynny roeddwn yn delio gyda hwy trwy ddefnyddio greddf naturiol a synnwyr cyffredin yn hytrach na dilyn set o weithdrefnau llym.

Rwy’n edrych yn ôl nawr ac yn gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau glas, ond yn bendant roeddwn allan o’n nyfnder. Galluogodd bod yn athrawes ymarfer corff a chynnig clybiau allgyrsiol, grwpiau a theithiau chwaraeon, i mi feithrin a magu perthnasau ardderchog gyda fy nisgyblion, a gwyddent y gallent ymddiried ynof. Cofiaf yn glir, hyd heddiw, y ferch gyntaf a ddatgelodd hunan-niweidio i mi a gofyn os fuaswn i’n mynd gyda hi i weld y cwnselydd. Wn i ddim pwy oedd yn fwy ofnus – hi neu fi! Ond gyda’n gilydd fe wnaethom lwyddo.

Roedd fy hyfforddiant ffurfiol cyntaf ar ffurf cwrs ar-lein i’w gwblhau erbyn dyddiad penodol, er mwyn i’r ysgol allu dweud fod holl staff yr ysgol wedi eu hyfforddi. Roedd y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a minnau’n ddysgwr Cymraeg, felly cefais drafferth i’w ddeall (roedd hyd yn oed yr Adran Gymraeg yn cwyno am safon y cyfieithu). Yn ffodus, roedd gen i ffrindiau da a roddodd yr atebion i’r cwestiynau i mi. Doedden nhw ddim am i mi edrych yn rhy dda, felly fe wnaethon nhw sicrhau fy mod wedi cael un ateb yn anghywir. Edrychaf yn ôl gydag arswyd nawr, gan sylweddoli nad oeddwn i’n gymwys i ddelio gydag unrhyw ganllawiau diogelu a materion amddiffyn plant. Ond, yn ôl yr ysgol, roeddem wedi ticio’r blwch ac felly’n gymwys.

Rwyf wedi gweld teuluoedd yn mynd drwy’r broses amddiffyn plant gyda chanlyniadau amrywiol, ond dyma’r teuluoedd y gwyddom amdanynt ac sydd wedi eu hadnabod. Gofynais i Estyn (yr Arolygaeth Gymreig) pa lefel o hyfforddiant oedd yn ofynnol ar gyfer staff ysgol, oherwydd yr anghysondebau o ran lefelau ar draws ardaloedd. Atebodd Gerrard Kerslake ei fod eisiau i staff deimlo eu bod wedi eu harfogi i ymdrin â’r hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud. Roeddwn yn hoffi’r ateb hwn gan nad oedd yn fath o ymateb “ymarfer ticio blwch”.

Dylid rhoi’r cyfleoedd i staff ysgol i ofyn cwestiynau ac i weithio eu ffordd drwy sefyllfaoedd sydd wedi digwydd iddynt hwy neu rai y gallent eu wynebu. Y neges allweddol a hanfodol yw fod yn rhaid i ni gyfeirio unrhyw bryder bach sydd gennym at yr arweinydd / person diogelu dynodedig neu at y gwasanaethau amddiffyn, hyd yn oed os mai ond mân-bryder  ydyw fod pethau ddim cweit yn iawn neu fod rhywbeth ddim ond yn “teimlo’n” anesmwyth. Dim ond wrth i ni adrodd ar ein pryderon y gallwn roi holl ddarnau’r jig-so at ei gilydd.

Gwaetha’r modd, mae’r Adolygiadau Ymarfer Plant yn dangos nad yw’r wybodaeth yn cael ei rhannu’n ddigon buan o hyd. Mae bron fel be bai arnom ofn ei gael yn anghywir. Fodd bynnag, ni allwn byth fethu pan fyddwn yn gweithredu ar bryder gwirioneddol am blentyn, ond rydym yn methu pan nad ydym yn gwneud hynny.

Scroll to Top