Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn diffinio’r term ‘datgeliad’ fel ‘un person yn cyfleu eu profiad i un arall’. Fel arfer, pan glywn y gair ‘datgeliad’, rydym yn meddwl am rhywun sy’n adrodd ar lafar yr hyn maent wedi ei brofi neu’r hyn maent yn ei brofi. Ond, o siarad gyda goroeswyr, mae’r ymchwil yn nodi mai dim ond nifer bach iawn o blant sydd yn datgelu camdriniaeth i oedolion, neu i unrhyw un. Darganfu ymchwil yn Awstralia ei fod yn cymryd, ar gyfartaledd, 23.9 mlynedd i ddatgelu camdriniaeth, gyda dynion yn cymryd mwy o amser i ddatgelu na merched (25.7 mlynedd i ddynion a 20.6 mlynedd i ferched). Ni fydd rhai dioddefwyr byth yn datgelu’r cam-drin y maent wedi ei brofi, felly mae’n rhaid i ni gydnabod a bod yn ymwybodol y gall datgeliadau ddod mewn llawer o wahanol ffurfiau.
Os edrychwn ni ar ddwy echelin yn ffurfio pedwar pedrant – llafar i ddi-eiriol ac uniongyrchol i anuniongyrchol – gallwn ddechrau edrych wedyn ar sut mae plant yn cyfathrebu gyda ni.
Pedrant Llafar – Uniongyrchol
Hyn yw ble mae plentyn yn dweud wrthych ar lafar beth y maent wedi ei brofi neu beth y maent yn ei brofi.
Pedrant Llafar – Anuniongyrchol
Hyn yw ble mae plentyn yn ceisio dweud wrthych, heb ddweud wrthych go iawn, beth sy’n digwydd. Esiampl o hyn fyddai eu bod nhw’n cael eu cam-drin gan hyfforddwr chwaraeon a’u bod yn dweud nad ydynt eisiau mynd i’r sesiynau hyfforddi mwyach. Efallai nad ydynt eisiau mynd i dŷ ffrind neu i dŷ perthynas. Efallai hefyd eu bod yn siarad am gyfrinachau neu gemau neu’n defnyddio iaith oedolion fyddai’n cael ei ystyied yn anaddas ar gyfer eu cam datblygiad.
Di-eiriol – Uniongyrchol
Gallai hyn gynnwys plentyn yn mynegi eu meddyliau / emosiynau / profiad mewn llythyr, datganiad ysgrifenedig neu waith celf a.y.y.b.
Di-eiriol – Anuniongyrchol
Gallai esiamplau o hyn fod yn newidiadau mewn ymddygiad, dillad neu grwpiau cyfeillion. I sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad, byddai angen i chi fod yn gyfarwydd gydag ymddygiad ‘arferol’ y plentyn. Un o’r tasgau pwysicaf y gallwn ei wneud yw i ymgyfarwyddo ein hunain gydag ymddygiad arferol plentyn pan rydym yn eu cyfarfod ac yn gweithio gyda nhw i ddechrau. Bydd hyn wedyn yn ein galluogi i sylwi ar y newidiadau bach yn eu hymddygiad; efallai eu bod yn ddistawach na’r arfer neu’n defnyddio termau na fyddent yn eu defnyddio’n arferol.
Mae plant anabl yn fwy tebygol o arddangos arwyddion o ymddygiad, yn enwedig os ydynt yn cael anhawster wrth gyfathrebu gydag oedolion. Yn gyffredinol, mae plant yn ceisio dweud wrthym os oes rhywbeth o’i le ac eisiau i ni ofyn iddynt os ydyn nhw’n iawn.
Pan fyddwch chi’n profi datgeliad
Yn ystod fy archwiliadau, byddaf yn gofyn i blant at bwy y byddent yn mynd pe bai ganddynt bryder drostynt eu hunain neu ffrind. Yr ateb cyffredin gan blant oed uwchradd yw deulu neu ffrindiau dros weithwyr proffesiynol. Mewn ysgolion cynradd, mae’n tueddu i fod yn deulu yn gyntaf.
Pan mae plant yn datgelu cam-drin ar lafar, efallai y byddant yn rhoi’r canlynol i chi:
- y manylion i gyd
- dim ond darn o wybodaeth
- efallai eu bod yn annelwig
- neu yn fanwl iawn
Cofiwch, er hynny, nad ydym i farnu os yw cam-drin wedi digwydd nac i gyfweld y plentyn. Rydym yno i gefnogi’r plentyn ac i basio’r wybodaeth ymlaen i’r Arweinydd Dynodedig Diogelu (ADD) / Person Dynodedig Diogelu (PDD). * Mae’n ddyletswydd gyfeithiol arnoch chi i basio unrhyw bryderon ymlaen, waeth pa mor fach y gallant ymddangos.
Mae’n bwysig rhoi gwybod i’r plentyn beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’r wybodaeth a phryd rydych wedi ei basio ymlaen i’r ADD / PDD. Mae’n rhaid i chi gael cefnogaeth i chi eich hun hefyd ar ôl i chi brofi datgeliad.
Dim ond i bobl y maent yn ymddiried ynddynt y mae plant yn datgelu, felly teimlwch anrhydedd eu bod wedi datgelu i chi. Byddwn yn edrych ar rwystrau i ddatgelu ac ar sut i leihau y rhain mewn postiad blog arall.
* Yn Lloegr mae gan ysgolion Arweinydd Dynodedig Diogelu; y term yng Nghymru yw’r Person Dynodedig Diogelu.
Adnoddau:

