Mae’n debyg mai hwn yw’r rhan bwysicaf o rôl DSL/DSPs ond mae’n un rydym yn ei wneud yn anaml. Rwyf i yr un mor euog o hyn, gan mai prin yr ydw i wedi ei drafod ar fy nghyrsiau. Cyflwynodd Lywodraeth Cymru Oruchwyliaeth yn ‘Keeping Learners Safe 2020’, ond ni ddarparwyd unrhyw fanylion am sut byddai’n cael ei ariannu, neu sut y byddai’n edrych yn ymarferol. Yn Lloegr fe’i crybwyllwyd yn yr ymgynghoriad ar gyfer KCSiE ond ni ymddangosoddd yn y fersiwn terfynol ac nid yw wedi ymddangos wedi hynny.
Ar bob un o’r cyrsiau rwy’n eu cyflwyno ar y cyd gyda LimeCulture rydym bob amser yn siarad am hunan-ofal mewn diogelu. Y pwynt yw, os nad ydym yn edrych ar ôl ein hunain, sut allwn ni edrych ar ôl eraill? Peidiwch a’m camddeall – buaswn wrth fy modd pe baem yn byw mewn byd ble nad oedd lefel a chynnwys ein gwaith yn gofyn am hyn, a’i fod yn atodiad ychwanegol.
Gall hunan-ofal ddod mewn llawer ffurf; yn bersonol nid wyf yn fath o berson ‘ymwybyddiaeth ofalgar’, er i mi barhau i roi tro arno, nid yw’r peth i mi. Mae fy hunan-ofal i yn fwy actif, megis marchogaeth, cerdded y ci, nofio, a.y.y.b. Mae hyn yn rhoi’r amser i mi, ar fy mhen fy hun, i brosesu pethau ac i glirio fy mhen.
Ar yr hyfforddiant Swyddog Cyswllt Camymddwyn Rhywiol LimeCulture, gofynnwn i’r cyfranogwyr am gân sydd naill ai’n mynd â nhw i le hapus, yn gwneud iddyn nhw sefyll i fyny a dawnsio, neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel a.y.y.b. Beth fyddai eich dewis chi? Hyd yn hyn, fy rhai i ydi Metallica – Enter Sandman (mae’n mynd a fi i Stadiwm y Principality a Chymru’n dod allan ar y cae rygbi), a Survivor – Eye of the Tiger (mae’n fy atgoffa i o’r hwyl roedden ni’n arfer ei gael yng ngemau hoci yn yr ysgol).
Yn fy marn i, mae goruchwyliaeth yn un rhan o’r pos ar gyfer sicrhau nad yw staff yn gor-wneud. Mae wir angen i benaethiaid ystyried y pwysau gwaith ar DSL/DSPs, oherwydd os oes yn rhaid iddynt fynd i ffwrdd oherwydd straen neu wedi ludded byddai’n rhaid i chi gymryd gofal dros eu rôl hwy i gyd. Mae gofyn i staff pan maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n dechrau ei chael yn anodd a chael yr uwch dîm rheoli i weithredu yn llawer gwell, felly, ar gyfer yr ysgol, y disgyblion, a’u teuluoedd.
Y prif bwynt yw fod staff angen teimlo eu bod yn gallu gael sgyrsiau agored a gonest ac yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Mewn diogelu, dywedwn yn aml mai nid cyfrifoldeb y plentyn yw i ddweud wrthym ni, ond i ni i greu y cyfleoedd iddynt hwy i siarad. Dylid dilyn yr un rheol hwn i’r staff er mwyn hyrwyddo diwylliant o agoredrwydd ac i ddiogelu pawb yn ein lleoliad.
