Pam, fel staff mewn addysg, ydyn ni’n ei chael yn anodd i ofyn am gymorth? Dywedwn wrth ein dysgwyr bob amser, “Os ydych chi’n ansicr neu’n methu gwneud rhywbeth, yna gofynnwch am help”. Ond eto, nid ydym ni fel staff yn gwneud hyn. Teimlai rhai ei fod yn arwydd o wendid, teimlai rhai y bydd yn cael ei ddal yn eu herbyn os byddent yn ceisio am ddyrchafiad, tra mae eraill, yn ddigon syml, ddim eisiau i bobl eraill wybod.
Mae’n bwysig bod staff yn deall nad arwydd o wendid yw gofyn am gymorth ond arwydd o gryfder.
Pan rydym yn ceisio dal i fynd pan o dan bwysau ac yn treulio ein hamser ein hunain yn gweithio er mwyn gallu cadw i fyny gyda’n llwyth gwaith – mae hynny nid yn unig yn anghywir, mae hefyd yn anghynaladwy. Y ffaith yw fod bywyd yn digwydd, ac mae pob un ohonom ni angen cymorth gan ein cydweithwyr ar rhyw adeg.
Byddaf wastad yn adlewyrchu ar yr adeg roedd gennyf bethau yn mynd ymlaen yn fy mywyd personol ac yn teimlo ei fod yn haws mynd i mewn i’r gwaith yn hytrach nac i aros i ffwrdd a gorfod delio gyda cheisio gosod gwaith ar gyfer fy nosbarth. Doeddwn i ddim eisiau gadael fy nisgyblion i lawr, yn enwedig gan nad oeddwn yn gweld fy ngrŵp lefel-A ond am un sesiwn yr wythnos am bedair awr.
Felly, i mewn i’r gwaith es i, gyda ‘mhen yn y lle hollol anghywir, gan fynd ymlaen a dweud wrth un o’n nisgyblion chweched dosbarth – o flaen y dosbarth i gyd – “Wyt ti’n ddwl ‘ta be’?!”
Mae’n codi arswyd arnai i edrych yn ôl ar beth wnes i. A gyda llaw, fe wnes i ddod o hyd iddo fore drannoeth i ymddiheuro, gan adrodd arnaf i fy hun i’r Dirprwy Bennaeth, oedd yn gefnogol iawn.
Yn y sefyllfa honno, fi oedd angen y gefnogaeth, ond roeddwn yn teimlo na allwn ofyn amdano. Roedd hynny’n rhannol oherwydd nad oedd neb wedi fy hysbysu ynghylch pa opsiynau oedd ar gael i mi. Mae’n wir, gallech roi’r bai arnaf i am beidio gofyn, ond mae hefyd yn gyfrifoldeb ar yr ysgol i amlinellu yn glir y gefnogaeth sydd ar gael i staff gael mynediad iddo’n fewnol ac yn allanol – yn union fel rydym yn ei wneud i fyfyrwyr.
Gallai fy sefyllfa i fod wedi troi allan yn waeth – gallwn fod wedi cael fy nisgyblu ac, yn y sefyllfa waethaf, a petai’r sefyllfa wedi bod yn wahanol, gallwn i fod wedi colli fy swydd. Mae diogelu yn ymwneud ag atal, ac roedd y digwyddiad hwn yn sicr yn ataliadwy, petai trafodaeth mwy agored wedi bod ar y ddwy ochr.
Os gwelwch yn dda, edrychwch ar beth, os o gwbl, rydych wedi ei gyfathrebu i’ch staff ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael yn yr ysgol a’r tu allan i’ch lleoliad – nid ydynt yn haeddu dim llai.
