Diogelu fel Blaenoriaeth mewn Lleoliad Addysg

Pan mae rhywbeth yn fusnes i bawb, rydym weithiau’n cymryd yr agwedd nad oes angen i ni wneud dim, gan dybio y bydd rhywun arall wedi sylwi ac wedi adrodd arno. Gall hyn ddigwydd petai’n bryder iechyd a diogelwch, megis dŵr ar y llawr y mae pawb o’r staff yn cerdded heibio ef yn y bore, neu’n bryder diogelu am blentyn yr ydych yn gwybod sydd bob amser yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol oherwydd eu bod wedi dweud wrthych eu bod yn gofalu am rhywun ac yn dweud fod pawb yn gwybod hynny.

Roeddwn gyda chydweithiwr, Maria o LimeCulture, oedd yn cyflwyno cwrs Swyddog Cyswllt Ymddygiad Rhywiol. Y bwriad oedd i mi ei chysgodi, ond fel mae’r rhai hynny sy’n fy adnabod yn gwybod,  rwy’n ei chael yn anodd iawn i beidio agor fy ngheg! Codwyd y pwynt yma yn ystod y sesiwn hyfforddi, ac roedd ymateb Maria yn un gwych: y broblem gyda diogelu yn bod yn fusnes i bawb yw y gall wedyn fod yn flaenoriaeth i neb.

Daeth y cysyniad hwn yn ôl i mi ar gwrs diogelu i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) yr oeddwn i yn ei gynnal yn ddiweddar. Adroddodd cyfranogwr mai un o’r pethau y byddai’n mynd gydag ef o’r cwrs fyddai i adrodd ar pob pryder ac i beidio tybio y byddai eraill wedi adrodd arnynt eisioes.

Felly, os gwelwch yn dda, allwn ni greu a chynnal diwylliant o ddiogelu ble mae diogelu’n flaenoriaeth i bawb?

Scroll to Top