Diogelu – Am beth mae Ofsted ac Estyn yn edrych?

Mae’r adroddiad hwn wedi ei lunio yn unol ag adroddiadau diweddaraf Ofsted ac Estyn a thrwy gadw cofnodion o dueddiadau er mwyn cynghori ar yr hyn y mae arolygwyr yn edrych amdanynt ar hyn o bryd. Mae’r ymchwil hwn yn seiliedig ar archwiliad agos a dadansoddiad o arolygiadau sydd wedi digwydd yn Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau fod y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad hwn yn gyfoes a chyfredol.

Mae’n gwbl hanfodol fod ysgolion yn sicrhau eu bod wedi cyflawni’r holl ofynion statudol o ran diogelu. Cyhoeddir ganllawiau statudol yn ôl y gyfraith, ac mae’n rhaid i ysgolion eu dilyn. Pan mae Ofsted ac Estyn yn archwilio ysgol, maent yn edrych ar sut mae’n cyflawni ei chyfreithlondebau. Adroddir ar  ysgolion sydd ddim yn cyflawni mesurau’n gywir, am eu systemau di-drefn, polisïau sydd wedi dyddio, systemau adrodd sydd ddim yn gadarn, cadw cofnodion yn annigonol a hyfforddiant annigonol ar gyfer staff.

Mae gan ysgolion sy’n dilyn mesurau’n effeithiol, er hynny, weithdrefnau diogelu tynn. Mae eu cofnodion yn eu lle, yn cael eu cynnal ac yn fanwl, ac mae eu polisïau a’u gweithdrefnau’n hawdd i ddod o hyd iddynt. Esiampl syml fyddai sicrhau bod polisi diogelu cyfoes ar wefan yr ysgol. Mae’r gofynion statudol yn cynnwys yr holl gyfreithlondebau, megis diogelwch safle, diogelwch tân ac asesiadau risg. Mae’n rhaid i systemau fod yn eu lle ar gyfer monitro’r holl bolisïau ac mae angen eu diweddaru’n rheolaidd a glynu iddynt, gan eu cysylltu i’r canllawiau perthnasol gan y llywodraeth, e.e. Keeping Children Safe in Education neu Keeping Learners Safe

Mae diwylliant diogelu da yn hollbwysig, a dylai llesiant fod yn greiddiol mewn ysgolion. Yn ogystal â chyflawni’r gofynion statudol, sef asgwrn cefn diwylliant diogelu positif, mae Ofsted ac Estyn yn edrych am dystoliaeth ychwanegol o ddiwylliant diogelu da. Byddai esiamplau o hyn yn cynnwys perthynasau da rhwng staff a disgyblion, polisïau a modelu ymddygiad cryf gan staff, hyfforddiant cadarn a chyson ar gyfer yr holl staff (yn cynnwys llywodraethwyr), a chyfathrebu rheolaidd gyda staff a rhieni, e.e. drwy briffio a chylchlythyrau wythnosol. Mae hyn yn arwain i ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus.

Mae’r elfennau angenrheidiol ar gyfer diwylliant diogelu da hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth gref o’r disgyblion eu hunain. Mae ysgolion sydd â diwylliant diogelu cryf yn adnabod eu disgyblion yn dda. Mae’r staff yn wybodus iawn am ddisgyblion unigol, maent yn ymwybodol o unrhyw anghenion cymhleth ac mae gofalwyr ifanc yn cael eu hadnabod a’u cefnogi. Rhagwelir anghenion disgyblion, gyda chefnogaeth ychwanegol yn cael ei ddarparu. Mae’r ymagwedd hwn i fywyd ysgol, sy’n canolbwyntio ar y person, yn amlwg yn fuddiol i’r holl randdeiliaid ac yn un o’r nodweddion sy’n galluogi disgyblion i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol.

Mae’n werth nodi presenoldeb hefyd. Bydd gan ysgolion sy’n methu weithdrefn annatblygedig ar gyfer monitro presenoldeb, sy’n golygu nad yw patrymau’n cael eu hadnabod, felly nid yw presenoldeb yn cael sylw ac, fel canlyniad, mae’n dirywio. Mae gan ysgolion da systemau cryf yn eu lle ar gyfer adrodd ar absenoldebau ac, o hynny, ffocws clir ar eu hatal. Mae hyn oll yn cyfrannu at ddiwylliant diogelu positif.

Mae rhan o deimlo’n ddiogel yn yr ysgol, ar gyfer disgyblion a staff, yn ddibynnol ar bolisi ymddygiad cryf. Gyda hwn yn ei le, bydd diwylliant diogelu cryf yn dilyn yn naturiol. Caiff ysgolion da ganmoliaeth am eu polisïau ymddygiad. Ar yr un pryd, yr ysgolion sy’n lleisio eu pryderon yw’r rhai nad oes ganddynt ymagwedd effeithiol na chyson at ymddygiad. Mae dau faes allweddol yn ymwneud â hyn: yn gyntaf, bwlio. Mae disgyblion yn teimlo’n anniogel mewn ysgolion ble mae’r polisi ymddygiad angen ei gryfhau neu angen ei weithredu’n well. Efallai fod disgyblion yn teimlo’n anniogel mewn ardaloedd penodol o’r ysgol, ac efallai bod bwlio ar lafar neu gorfforol ac amseroedd trosglwyddo ansefydlog, sy’n gwaethygu’r teimlad o fregusrwydd. Ochr yn ochr â hyn, pryder cyffredin yw nad yw disgyblion yn cael eu hysbysu ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i osgoi neu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwael neu na wrandewir ar bryderon nac yr ymdrinnir â hwy os cânt eu hadrodd. Gall hyn arwain at berthnasau sydd wedi eu datblygu’n well rhwng disgyblion a rhwng staff a disgyblion. 

Mae’n hanfodol cydnabod darpariaeth ‘Special Educational Needs and Disabilities’ (SEND) ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wrth ystyried diogelu. Mewn ysgolion lle canfuwyd nad oedd diogelu yn ddigonol, nid oedd y cynlluniau dysgu ar gael i’r staff, nid oeddent yn cael eu defnyddio’n gyson, neu nid oedd darpariaeth ddigonol ar gyfer bregusrwydd ychwanegol disgyblion gyda SEND/ADY. Gallai’r ysgolion hyn ddysgu llawer gan y rhai hynny sydd â darpariaeth SEND/ADY cryf, sydd yn gyflawn ac yn feddylgar, er enghraifft, wrth gefnogi disgyblion sydd angen cymorth i reoli ac i reoleiddio eu hemosiynau. Mae cefnogaeth wedi’i bersonoli’n galluogi disgyblion SEND/ADY i ffynnu ac i deimlo’n fwy diogel.

Mae diogelu da hefyd yn ymestyn y tu hwnt i adeilad yr ysgol. Fel  dywedwyd eisioes, mae adnabod eich disgyblion yn allweddol i greu diwylliant diogelu positif. Mae hyn yn cynnwys y perthynasau sydd gan yr ysgol gydag asiantaethau allanol. Mae’n bwysig pwysleisio gofal a chefnogaeth ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd; er enghraifft, swyddog ymgysylltu â theuluoedd, ymwybyddiaeth o anghenion unigol teuluoedd a pherthynasau cryf gyda rhieni. Bydd perthynasau gwael rhwng ysgol a rhieni yn arwain at farnau negyddol all dreiddio i’r ysgol.

Pwnc pwysig arall wrth edrych ar ddiogelu yw cwricwlwm yr ysgol. Cyfeirir at y cwricwlwm fel bod yn broblemus ble nad oes manylder digonol wrth gynllunio ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) neu fod sylw annigonol i ddiwylliannau, crefyddau a ffyrdd o fyw. Mae gan ysgolion da gwricwla datblygedig sy’n cysylltu’n gryf i ddiogelu ac yn cynnwys iechyd corfforol a iechyd meddwl – ar-lein ac oddi-ar lein. Mae cwricwla cadarn yn addysgu disgyblion i reoli risgiau ac yn cynnwys sgiliau iechyd, diogelwch, cymdeithasol a bywyd. Maent yn pwysleisio ar iechyd a ffitrwydd corfforol ac yn cynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiad, materion cyfoes, a’r gymuned leol.

Mae agweddau eraill o fywyd ysgol yn chwarae rhan mewn diogelu. Mae llais y disgybl yn un agwedd o’r fath ac fe ddylid ei ddatblygu. Mae ysgolion sydd ag ethos diogelu da yn blaenoriaethu llais y disgybl. Un enghraifft a nodwyd oedd clwb llesiant ble mae disgyblion yn trafod eu teimladau a’u hemosiynau. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi cael eu holi am eu barn ac yn teimlo’n fwy diogel o wybod eu bod yn cael eu clywed.

Agwedd arall yw llywodraethu. Mae llywodraethwyr yn perfformio rôl ganolog mewn ysgolion; mae angen iddynt fod yn rhan o hyfforddiant diogelu’r ysgol ac yn cymryd rhan weithredol mewn diogelu. Y llywodraethwyr yw’r corff sy’n darparu arweinwyr yr ysgol gyda’r gefnogaeth, yr her a’r atebolrwydd angenrheidiol. Dylent gael eu hysbysu, eu hyfforddi a’u hymgysylltu’n llawn.    

Yr agwedd olaf yw pontio. Mae ysgolion da yn cynllunio ar gyfer pontio, gyda chynlluniau yn eu lle i sicrhau pontio llyfn o’r feithrin i’r cynradd neu o’r cynradd i’r eilradd. Maent yn ceisio’n weithredol am wybodaeth am eu disgyblion newydd o’r unedau meithrin neu’r ysgolion sy’n eu bwydo, er mwyn i ddiwylliant diogel a chynhwysol gychwyn cyn iddynt hyd yn oed fyned i mewn i gyfnod nesaf eu haddysg.

Scroll to Top