Cefnogi Unigolion yn y Broses Amddiffyn Plant

Sut allwn ni gefnogi y rhai hynny sy’n rhan o’r broses amddiffyn plant?

I ddechrau, mae’n rhaid nodi fod llawer o bobl yn gysylltiedig â hyn, yn cynnwys y dioddefwr/goroeswr, y drwgweithredwr honedig (gallai fod yn aelod staff neu’n ddisgybl), eraill yr effeithir arnynt megis aelodau’r teulu, ffrindiau yn yr ysgol neu’n aelod o’r staff sydd wedi derbyn y datgeliad. Weithiau rydym yn anghofio’r effaith crychdonni y gall sefyllfa ei gael ar grwpiau cyfeillgarwch neu aelodau’r teulu. Sicrhewch eich bod yn ystyried pawb sy’n gysylltiedig, os gwelwch yn dda.

Un ffordd y gallwn gefnogi’r rhai hynny sy’n rhan o’r broses yw drwy eu darparu â pherson dynodedig y gallent fynd ato ef/hi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu os ydynt angen sgwrs. Mae’n well os nad yw’r person yma’n cefnogi unrhyw un arall nac ychwaith yn rhan o’r broses aml-asiantaeth. Mae hyn yn helpu i gynnal annibyniaeth oddiwrth unrhyw ymchwiliad sydd yn mynd yn ei flaen ac yn atal y person rhag teimlo eu bod yn cael eu tynnu o nifer o gyfeiriadau gwahanol.

Gofynnwch i’r person/plentyn gyda phwy fyddent yn gyfforddus i gyflawni’r rôl yma. Efallai y bydd angen i’r person fod wedi derbyn rhywfaint o hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi’r unigolyn yn llawn tra hefyd yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen ar gyfer prosesau amddiffyn plant / cyfreithiol.

Mae’n allweddol cadw’r unigolyn yn hysbys o’r hyn sy’n digwydd, ond gwiriwch gyda’ch Arweinydd Diogelu Dynodedig (ADD) / Person Diogelu Dynodedig (PDD) am ba wybodaeth y gallwch ei rannu gyda’r unigolion. Esboniwch iddynt mai eich rôl chi yw i’w cefnogi a pheidio â chymryd ochr na llunio barn. Sicrhewch bod ffiniau proffesiynol wedi eu gosod fel eu bod yn gwybod sut y gallent gysylltu â chi a bod hyn i ddigwydd yn ystod oriau gwaith yn unig. Peidiwch byth â rhannu e-bost neu rif ffôn preifat. Trafodwch gyda nhw a ydyn nhw eisiau dal i fyny’n rheolaidd neu am gyfathrebu ad hoc yn ôl yr angen. Os yw’n well ganddynt gysylltiad ad hoc, atgoffwch hwy eich bod ar gael os nad ydych wedi siarad â hwy ers amser.   

Os yw’r unigolyn yn ei chael yn anodd ymdrin â’r sefyllfa ac angen cefnogaeth ychwanegol, fod gan y rhan fwyaf o sefydliadau ddarpariaeth cwnsela ar gael ar gyfer staff a myfyrwyr, er efallai y bydd rhaid aros amdano. Ni fyddai’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer rhieni fel arfer, felly byddwn yn eu cynghori i ofyn i’w meddyg teulu neu Hwb Ymyrraeth Gynnar o fewn yr adran Gwasanaethau Plant.

Sicrhewch nad ydych yn addo unrhyw beth na allwch ei gyflawni neu nad oes gennych reolaeth drosto, e.e., “Fydd hyn i gyd wedi dod i ben o fewn y mis” neu “bydd yr heddlu’n dy gyfweld ac yn cymryd dy adroddiad di o’r hyn a ddigwyddodd.”

Yn yr achosion hynny ble mae dau ddisgybl o’r un ysgol ac mae digwyddiad o gamymddygiad rhywiol honedig, mae gennych ddyletswydd tuag at y ddau/ddwy ddisgybl. Mae gan y Centre for Excellence in Child Sexual Abuse ddogfen arweiniad wych o’r enw Cynllunio Diogelwch Mewn Addysg. Mae’n eich arwain drwy’r camau angenrheidiol sydd angen eu dilyn, sut i gysylltu gyda phobl a sut i gynllunio i gadw’r plant ddiogel.

Scroll to Top