Pan af i mewn i ysgolion a chynnal archwiliadau, byddaf bob amser yn siarad gyda’r disgyblion oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae gennyf ddiddordeb yn effaith diwylliant diogelu lleoliad addysg. Mae bob amser yn ddiddorol pan fyddai’n gofyn iddynt am eu rhaglen Addysg Cydberthnasedd a Rhywiolde b (ACRh) / Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABaCh). Mae’r plant yn barod i siarad am y materion hynac, yn aml, gall amharodrwydd ac anesmwythder y staff fod yn rhwystr i’r plant sydd am ofyn yr hyn y maent eisiau ei wybod.
Adroddai’r disgyblion yn aml:
- Fod gormod o fideos
- Fod gormod o bwyslais ar y gyfraith yn hytrach nac ar edrych ar faterion moesol, e.e., gyrru lluniau noeth
- Eu bod am i bawb glywed yr un neges yn hytrach na chael eu rhannu’n grwpiau, oherwydd gall y bechgyn deimlo wedyn fel eu bod yn cael eu labelu fel drwgweithredwyr a’r genethod fel y dioddefwyr
- Bod dealltwriaeth ynghylch materion LGBTQ+ yn aneglur a gall fod yn anoddach i’r gymuned yma i siarad gyda phobl am faterion. Yn gyffredinol, dywed llawer eu bod yn mynd ar-lein i ofyn cwestiynau ble gallent fod yn anhysbys.
- Eu bod yn hoffi’r rhaglenni sy’n esgyn gan ychwanegu atynt o flwyddyn i flwyddyn (‘spiralling programme’)
- Yn teimlo’n hapus ynghylch diogelwch ar-lein. Ond, pan ofynais iddynt ymhellach am hyn, roeddent yn hapus i ‘flocio’ pobl ar-lein ac i gadw eu hunain yn ddiogel, ond yn anaml y byddent yn adrodd am y person. Mae angen pwysleisio’r pwynt yma er mwyn cadw eraill yn ddiogel hefyd.
Mae’r rhan yma o’r cwricwlwm mor bwysig, a phan mae’n cael ei gyflwyno’n dda gan staff sy’n teimlo eu bod wedi eu paratoi i weithredu’r rhaglen, mae’r plant yn teimlo’n llawer mwy diogel. Mae angen i ni ddysgu pwysigrwydd y maes hwn ac amserlennu staff sydd wedi eu paratoi i’w gyflwyno, er mwyn i’n plant allu cymryd rhan mewn trafodaethau gwybodus.
Rhai pwyntiau allweddol ar gyfer staff yw i sicrhau fod pawb yn cadw at y rheolau sylfaenol sydd wedi eu llunio gyda’r dosbarth. Mae angen cynnwys yr agwedd gyfreithiol, er mwyn i’r plant ddeall y canlyniadau posib. Er hynny, rydym yn gwybod bod plant yn dal i gael rhyw pan o dan 16 oed neu’n gyrru lluniau noeth. Mae angen i ni eu helpu er mwyn iddynt wybod sut i wneud y penderfyniadau mwyaf gwybodus drostynt eu hunain ac i ystyried yr holl ganlyniadau posib.
Rwyf wedi siarad gyda staff sydd wedi derbyn datgeliadau ar ôl cynnal sesiynau, oherwydd nad oedd y plentyn wedi sylweddoli eu bod wedi cael eu cam-drin neu wedi dioddef o fagu perthynas amhriodol cyn hynny.
Wrth gyflwyno materion sensitif, sicrhewch eich bod yn gwybod pwy sydd ar gael i gefnogi pe bai disgybl eisiau siarad gyda rhywun neu am wneud datgeliad. Gwiriwch hefyd gyda’r Arweinydd Diogelu Dynodedig (ADD) / Person Diogelu Dynodedig (PDD) cyn cyflwyno’r sesiwn os yw’r materion yn debygol o fod yn sbardun i unrhyw rai o’r disgyblion yn y dosbarth.
