Beth i’w wneud yn ystod datgeliad

Beth i’w wneud yn ystod datgeliad

Gofynnir yn aml i mi beth i’w wneud yn ystod datgeliad. Dyma rai o’r cwestiynau hynny.

Ydw i yn cael bod ar fy mhen fy hun gyda’r plentyn, neu oes angen i mi ofyn i rhywun arall fod yn bresennol?

Os yw plentyn yn gofyn i gael siarad gyda chi ar eich pen eich hun, yna gallwch fod ar eich pen eich hun gyda nhw. Ond, mae camau i’w cymryd er mwyn eich diogelu chi a’r plentyn. Yn gyntaf, ceisiwch ddewis rhywle sydd â ffenestri ble gellir eich gweld. Os mewn ystafell ddosbarth, eisteddwch wrth y drws ble gall unrhyw un sy’n pasio heibio’r drws eich gweld trwy’r ffenestri. Cysylltwch â’r swyddfa gan esbonio nad ydych i gael eich styrbio gan eich bod yn cyfarfod â phlentyn ac y gwnewch chi gysylltu â nhw pan fydd y cyfarfod wedi dod i ben.

Mae’n bwysig cofio fod y plentyn wedi dewis siarad gyda chi am eu bod yn ymddiried ynoch chi. Os ddewch chi â pherson arall i mewn, efallai na fydd y plentyn yn datgelu yr hyn yr oedd am ei ddatgelu, gan arwain at golli cyfle i helpu.

Oes angen i mi ddweud wrthynt na allaf gadw dim i mi fy hun a bod yn rhaid i mi rannu yr hyn maent wedi ei ddweud wrthyf?

Nes mae plentyn wedi gwneud datgeliad, ni wyddoch beth maent am ddweud wrthych. Os yw plentyn yn gofyn i chi i beidio dweud wrth rhywun arall neu i gadw rhywbeth i chi’ch hun, eich ymateb chi yw i ddweud, “Mae’n dibynnu. Os wyt ti’n dweud rhywbeth wrthyf sy’n dy roi di neu blentyn arall mewn perygl, yna bydd yn rhaid i mi rannu’r wybodaeth honno gyda’r Arweinydd Dynodedig Diogelu (ADD) / Person Dynodedig Diogelu (PDD) / Tîm Diogelu.”

Ar yr adeg yma, efallai y bydd plentyn yn penderfynu peidio rhannu gwybodaeth gyda chi. Sicrhewch eu bod yn gwybod eich bod ar gael bob amser os byddant yn newid eu meddwl, ac wedyn mae’n rhaid i chi adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd i’ch ADD / PDD. Os yw’r plentyn yn penderfynu mynd yn eu blaen ond ddim yn datgelu unrhyw beth sy’n eu rhoi nhw neu unrhyw un arall mewn perygl, e.e., maent yn mynd i Disneyland ar gyfer penblwydd eu brawd iau, gallwch ddweud wrthynt nad oes angen i chi rannu hynny gyda rhywun arall. Ond, os ydyn nhw’n datgelu unrhyw beth sydd yn eu rhoi nhw neu unrhyw un arall mewn perygl, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt, “Cofia beth ddywedais i ar y cychwyn, y byddai’n rhaid i i mi rannu beth rwyt ti wedi ei ddweud wrthyf gyda’r ADD / PDD / Tîm Diogelu os wyt ti neu unrhyw un arall mewn perygl.”

Cofiwch, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch plentyn. Gallwch esbonio hyn i’r plentyn hefyd.

Ga i ysgrifennu pethau i lawr yn ystod y datgeliad?

Mae hwn yn gwestiwn anodd gan fod angen i chi gofnodi cymaint o wybodaeth â phosibl yn ystod y datgeliad cyntaf, a gall fod yn demtasiwn i fynd i nôl dipyn o bapur ac i ddechrau ysgrifennu nodiadau. Yn gyntaf, mae’n rhaid i’ch holl sylw fod ar y plentyn. Os oes gennych bapur a beiro wrth law, yna gallwch ofyn i’r plentyn os fyddai’n iawn i gymryd nodiadau i’ch helpu i gofio beth sy’n cael ei ddweud. Os yw’r plentyn yn dweud na, yna peidiwch â chymryd nodiadau. Os ydynt yn cytuno, cofiwch mai y plentyn yw eich prif ffocws, dim sicrhau eich bod yn ysgrifennu popeth i lawr air am air. Mae angen i chi sicrhau nad yw’r plentyn yn rhwystredig mewn unrhyw ffordd a’u bod yn cael symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain.

Sut alla i drio cofio’r hyn a ddywedwyd?

Un o’r ffyrdd gorau i gofio ac i wirio eich bod wedi clywed yn gywir yw i ail-adrodd i’r plentyn yr hyn yr ydych yn meddwl maent wedi ei ddweud, i sicrhau cywirdeb. Mae hyn hefyd yn eich helpu chi i gofio. Defnyddiwch y derminoleg mae’r plentyn yn ei ddefnyddio, e.e., os ydynt yn cyfeirio at eu pidyn fel eu “jimmy riddle” neu “dingle dangle”, yna dyna rydych chi’n ei alw pan yn rhoi adborth ac yn cofnodi wedyn.

Beth am ofyn cwestiynau?

Caniateir i chi ofyn cwestiynau agored i benderfynu os yw’r plentyn mewn perygl neu’n cael eu cam-drin. Ond, dim ond i gynorthwyo’r plentyn y defnyddir y rhain. Os ydynt yn siarad yn barod, nid oes angen i chi ofyn cwestiynau.

Os yw’r plentyn yn ansicr am sut i ddechrau, gallech ddefnyddio anogiad, megis:

  • Elli di egluro i mi beth ddigwyddodd?
  • Dweud wrthyf am beth rwyt ti’n poeni.
  • Disgrifia i mi sut gefais ti’r clais yna ar dy fraich.

Nid ymchwilwyr ydan ni, felly nid ein lle ni yw i weithio allan y manylion ynghylch pwy sydd wedi gwneud beth. Mae gweithwyr proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi ar gyfer cyfweliadau Sicrhau’r Dystiolaeth Orau. Un cwestiwn mae’n rhaid i chi ei ofyn ar y diwedd bob tro yw, “Oes yna unrhyw beth arall rwyt ti am ei ddweud wrthaf i?” Os ydynt yn dweud “na”, eglurwch wrthynt os ydynt yn cofio am unrhyw beth arall, i ddod yn ôI atoch ac i siarad gyda chi.

Awgrymiadau arfer dda

  • Gadewch i’r plentyn fynd ar eu cyflymder eu hunain.
  • Pan rydan ni’n nerfus, tueddwn i siarad yn sydyn, newid traw (‘pitch’) ein llais a llenwi unrhyw fylchau mewn sgwrs. Mae seibiau yn iawn gan fod hyn yn galluogi plant i brosesu yr hyn maent am ei rannu. Defnyddiwch y cyfle hwn i chi gymryd anadl ddofn.
  • Rhowch sicrwydd iddynt eu bod yn gwneud yn dda a’u bod yn gallu cymryd eu hamser.
  • Mae’n rhaid i ni reoli ein hemosiynau er mwyn cefnogi’r plentyn. Wedyn, er hynny, mae’n rhaid i chi ryddhau eich emosiynau a siarad gyda’r ADD / PDD ynghylch sut rydych chi’n teimlo.
  • Gwiriwch i sicrhau fod y plentyn yn iawn.
  • Gwiriwch mai’r hyn yr ydych wedi ei glywed yw’r hyn a ddywedwyd.
  • Eglurwch y camau nesaf (wrth pwy rydych am ddweud a phryd).
  • Unwaith rydych wedi dweud wrth yr ADD / PDD / Tîm Diogelu, yna gadewch i’r plentyn wybod.
  • Trin y plentyn yn yr un ffordd ofalgar ag y gwnaethoch cyn y datgeliad.
  • Sicrhewch gefnogaeth i chi’ch hun oherwydd gall trawma dirprwyol ddigwydd.

Dolenni defnyddiol:

https://www.bma.org.uk/advice-and-support/your-wellbeing/vicarious-trauma/vicarious-trauma-signs-and-strategies-for-coping
Scroll to Top