Yn ystod y tri mis diwethaf yn Ofsted ac Estyn, mae’r adroddiadau wedi gweld patrymau tebyg mewn ysgolion ar draws Cymru a Lloegr: Ble mae arfer dda yn digwydd, nid oes arfer wael yn bresennol fel arfer.
Nid oes yr un lefel o ffocws ar bresenoldeb a’r hyn oedd cyn y Nadolig. Er hynny, mae’n dal yn glir mai ble mae hyn yn llwyddiannus, mae hynny’n digwydd oherwydd bod systemau datblygedig, cynhwysfawr, amserol a thrylwyr wedi’u rhoi ar waith er mwyn i ysgolion sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi disgyblion i fynychu’r ysgol.
Efallai y bydd angen i’r gefnogaeth yma fod yn sensitif, wrth gefnogi’r nifer fach o ddisgyblion hynny sy’n gallu ei chael yn fwy anodd i fynychu’r ysgol. Mae’r math yma o help yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o’r ddarpariaeth sydd ei angen ar gyfer pob disgybl (gweler darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol). Heb bresenoldeb da, bydd y bylchau yn addysg disgyblion hefyd yn tyfu. Mae Ofsted yn tynnu sylw at yr angen i arweinyddion sicrhau ffocws craff ar helpu disgyblion i wella eu presenoldeb. O ran ymddygiad, mae ysgolion yn cael eu canmol am fod â disgwyliadau uchel o ymddygiad a phresenoldeb disgyblion. Ble mae ethos yr ysgol yn cael ei fodelu gan y staff ac yn cael ei weithredu gyda systemau cadarn mae’r disgyblion, yn eu tro, yn garedig ac yn barchus ac mae ymddygiad gwael yn brin. Mae ysgolion angen strategaethau clir i reoli ymddygiad disgyblion; er enghraifft, technegau tynnu sylw cyflym a medrus i helpu disgyblion i reoli eu hemosiynau.
Os nad yw hyn yn bresennol, gall arwain i ddisgyblion yn gweld bywyd ysgol yn heriol ac, o ganlyniad, yn amharod i adrodd ar ddigwyddiadau o fwlio. Dylai arweinyddion godi eu disgwyliadau o ymddygiad disgyblion a sicrhau fod staff yn rheoli ymddygiad yn deg ac â chysondeb, gan dawelu meddwl disgyblion fel canlyniad. Mae angen i ddisgyblion weld fod ymddygiad yn cael ei drin er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel. Mae’n hanfodol fod disgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, yn enwedig os nad yw bywyd cartref yn le diogel.
Mae gan y llywodraethwyr rôl yn y cefndir drwy oruchwylio’r gwaith mwyaf hanfodol, yn enwedig mewn perthynas â phriodoldeb ariannol a diogelu. Mae angen iddynt ddal arweinyddion i gyfrif a derbyn hyfforddiant penodol. Mae angen iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau nad ydynt yn or-ddibynnol ar y wybodaeth mae’r pennaeth yn ei ddarparu.
Yng Nghymru, mae’r ffocws i ran helaeth ar os yw llywodraethwyr yn gwneud trefniadau addas i hyrwyddo bwyta ac yfed iach yn yr ysgol tra’n defnyddio’r grant datblygu disgyblion yn effeithiol. Er enghraifft, er mwyn i ddisgyblion sydd angen ymyriadau wedi’u teilwra ar eu cyfer i wella eu dysgu neu eu llesiant gael mynediad i’r gefnogaeth maent ei angen. Mae ymagwedd gynhwysol yr ysgol yn sicrhau fod gan ddisgyblion agored i niwed fynediad i deithiau preswyl na fyddent yn cael y cyfle i’w profi fel arall, neu ei ddefnyddio i ddarparu sesiynau chwarae buddiol i gefnogi llesiant disgyblion.
Mae’r adroddiadau Ofsted diweddar yn amlygu’r ffaith fod plant yn teimlo’n ddiogel pan maent yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Dylid bod ystod o systemau a dulliau cyfathrebu yn eu lle er mwyn galluogi disgyblion i leisio eu barn. Byddai esiamplau’n cynnwys cyfarfodydd grŵp, trafodaethau un i un, a blwch pôst dienw ble gallent gynnig awgrymiadau.
O ganlyniad i’r diwygiadau diweddar, mae Addysg Bersonol, Cymdeithasol, Iechyd ac Economaidd (‘PSHE’ yn Lloegr) / Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb (ACRh yng Nghymru) yn parhau i fod yn bwnc llosg. Ble mae’r arfer yn dda, mae cynnig personol cynhwysfawr gyda gwersi pwrpasol wedi’u hamserlennu. Mae rhaglenni llwyddiannus yn cynnwys themâu pwysig sy’n cael effaith cadarnaol ar iechyd a llesiant, megis ymarfer corff, bwyta ac yfed yn iach, a iechyd rhywiol, yn ogystal ag effaith dewisiadau ac ymddygiadau ffordd o fyw niweidiol, megis camddefnydd sylweddau. Mae’r darpariaeth dda yn cael ei wella eto gydag ymweliadau gan ddarparwyr allanol a siaradwyr arbenigol. Mae diogelwch ar y wê yn nodwedd amlwg, ac hefyd y pwyslais ar addysg bersonol a chymdeithasol sy’n datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u llesiant eu hunain. Er enghraifft, galluogi disgyblion i ddefnyddio gwahanol strategaethau fel technegau cefnogaeth pan maent yn wynebu gwaith mwy heriol sydd, i bob pwrpas, yn sgaffaldu eu llesiant emosiynol.
Mae’n bwysig bod disgyblion yn dysgu am sut i edrych ar ôl eu hiechyd meddwl, peryglon casineb at wragedd (misogyny) a sut i ddatblygu perthnasoedd iach. Dylid hefyd ystyried y peryglon yn yr ardal leol, yn ogystal â phynciau megis perthnasoedd niweidiol, pwysau gan gyfoedion a chamddefnydd sylweddau. Mae PSHE yn mynd yn aneffeithiol pan nad yw wedi’i ddilyniannu’n dda ar draws y grwpiau blwyddyn, gan arian at ddisgyblion yn methu ag adalw gwybodaeth bwysig, fel gwybodaeth am werthoedd Prydeinig a pherthnasoedd positif. Mae’n rhaid i arweinyddion sicrhau fod disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn elwa o raglen datblygiad personol o safon uchel sy’n rhoi’r sgiliau iddynt i fod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer bywyd yn y Brydain fodern. Mae arfer dda ble mae arweinyddion yn sicrhau fod datblygiad personol disgyblion yn greiddiol i bopeth maent yn ei wneud a’r holl ddisgyblion yn dysgu am berthnasoedd iach mewn modd sy’n addas i’w hoedran. Ble nad yw PSHE are ei orau, mae gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a materion byd eang yn gyfyng.
Mae Estyn wedi rhoi rhan sylweddol o’u harsylwadau ar ffyrdd iach o fyw, dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae arfer dda’n galluogi disgyblion i gael dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd bwyta ac yfed yn iach a dealltwriaeth o fuddion ymarfer corff ar eu hiechyd. Bydd ysgolion o’r fath yn darparu ystod eang o weithgareddau corfforol allgyrsiol. Mae ysgolion cynradd yn cael canmoliaeth am ddisgyblion sy’n gwybod bod angen iddynt lanhau eu dannedd yn rheolaidd ac yn siarad yn feddylgar am ddeiet iach sydd ddim yn cynnwys gormod o fwyd cyflym. Dylai disgyblion wybod pam bod gwneud dewisiadau iach yn bwysig a deall effaith bwyta deiet cytbwys ac yfed dŵr, tra’n cael eu hannog a’u galluogi i wneud dewisiadau iach trwy gydol y diwrnod ysgol.
Mae pwyslais yn nifer o adroddiadau ar y berthynas rhwng staff a disgyblion. Yn ganolog i hyn mae pwysigrwydd arweinyddion a staff yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn deall y cymunedau maent yn byw ynddynt. Mae’n talu i fod yn effro i’r peryglon y gall disgyblion fod yn eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Gall staff wedyn adrodd ar yr arwyddion all ddangos fod disgybl mewn perygl o niwed. Mae arweinyddion sy’n gweithio’n dda gydag ystod o asiantaethau’n galluogi disgyblion a’u teuluoedd i dderbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.
Mae gan ysgolion da staff sydd yn fedrus wrth gyfathrebu gyda disgyblion. Maent yn deall y rhwystrau mae disgyblion yn eu profi wrth geisio dilyn trefn reolaidd a phrosesu gwybodaeth newydd. Dylai’r holl staff fod yn amyneddgar ac yn feithringar wrth weithio gyda disgyblion a bod yn fodel rôl positif, gan hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad da. Mae’r perthnasoedd hyn yn cefnogi llesiant y disgyblion yn uniongyrchol. Gyda pherthnasoedd cryf, bydd disgyblion yn gyfforddus ac yn hyderus i rannu eu pryderon gyda staff.
Mae cymryd amser i ddeall am brofiadau disgyblion a sut mae eu hanghenion unigol yn effeithio ar sut maent yn teimlo yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer perthynas ymddiriedus rhwng disgyblion a staff. Mewn ysgolion arbennig, canfuwyd bod staff yn defnyddio eu perthnasoedd cadarnhaol gyda’r disgyblion i’w helpu i reoli eu pryderon a’u rhwystredigaethau. Fel canlyniad, nid oedd unrhyw achosion o ataliaeth corfforol. Gall disgyblion fyfyrio ar eu hymddygiadau a’u gweithredoedd a siarad gyda staff am sut roedden nhw’n teimlo a pha ymatebion a’u helpodd i reoli eu hemosiynau’n fwy effeithiol.
Diogelu
Mae arweinyddion sy’n wirioneddol wybodus yn sicrhau bod yr holl staff â’r wybodaeth benodol a chyfredol am ddiogelu. Mae pryderon yn cael eu hadrodd ar fyrder, a’r arfer orau’n gweld llywodraethwyr ac arweinyddion yn gweithio’n agos gyda’r system ysgol ehangach i sicrhau fod yr holl weithdrefnau recriwtio diogel priodol yn cael eu cwblhau yn fanwl gywir. Mae’n talu i arweinyddion adnabod y disgyblion a’u teuluoedd yn dda ac i fod yn wyliadwrus am unrhyw newidiadau yn ymddygiad disgyblion unigol a’r arwyddion allai awgrymu fod disgybl mewn perygl o niwed.
Mae hyfforddiant yn elfen allweddol o’r arferion diogelu gorau. Dylai’r holl staff dderbyn hyfforddiant a diweddariadau diogelu rheolaidd a chael eu hyfforddi’n ddigonol yng ngweithdrefnau diogelu’r ysgol fel fod y cofnodi yn fanwl a’r gweithredoedd i ddiogelu disgyblion yn amserol.
Dylai’r hyfforddiant hefyd fod yn benodol i ddiwallu anghenion y disgyblion, er enghraifft hyfforddiant ar sut i atal disgyblion awtistig rhag cael eu hecsbloetio a’u radicaleiddio. Dylid ysgrifennu polisïau diogelu ysgol yn unol â’r arweiniad statudol ddiweddaraf sydd i’w gael ar-lein.
Dylai cofnodion roi arwydd clir o’r risgiau posibl a’r gweithredu sydd wedi cymryd lle mewn ymateb, a dangos fod arweinyddion uwch yn gadarn wrth herio unrhyw weithwyr proffesiynol eraill pan fyddant yn canfod nad ydynt yn cyfarfod eu cyfrifoldebau. Mae arweinyddion fel arfer yn dilyn i fyny yn brydlon gydag asiantaethau eraill ar unrhyw bryderon ac yn cadw cofnodion manwl am unrhyw atgyfeiriadau. Mae cyfathrebu da gyda gweithwyr proffesiynol allanol yn sicrhau bod y pryderon yn cael eu rhannu a strategaethau’n cael eu dyfeisio a’u dosbarthu.
Mae diogelu gwael yn amlwg pan nad yw asiantaethau diogelu allanol wedi eu hymgynghori pan ddylasent fod, arweinyddion uwch wedi methu rheoli’r pryder yn briodol, neu bod peryglon e.e. drws tân ddim yn cau yn iawn, neu geblau estyniad trydan wedi’u plwgio i mewn, y swits ymlaen, ac yn eistedd ar dapiau sinc.
Mae’n rhaid i’r systemau cofnodi pryderon diogelu helpu gyda chofnodi pryderon lefel isel am arfer aelodau staff unigol. Dylid cefnogi y Personau Dynodedig Diogelu (PDD) i ddadansoddi’r wybodaeth er mwyn adnabod patrymau posibl o ymddygiad amhriodol, problemus neu sy’n achosi pryder.
Mewn ysgolion da, mae gan arweinyddion uchelgeisiau uchel ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac anableddau. Maent yn adnabod unrhyw ddisgyblion sydd ag ADY yn gyflym ac yn darparu’r gefnogaeth dosbarth maent ei angen i gael mynediad i’r cwricwlwm llawn. Mae tracio a monitro cynnydd disgyblion yn ofalus yn sicrhau bod gan pob disgybl dargedau penodol sy’n cael eu hadolygu a’u gwerthuso’n rheolaidd. Maent yn adnabod a chynllunio ystod o raglenni llythrennedd, rhifedd a chymdeithasol a phersonol i gefnogi disgyblion. Dylid rhannu’r cwricwlwm i gamau hylaw, gan ddefnyddio strategaethau priodol i gefnogi dysgu disgyblion gyda chymorthyddion addysgu yn cefnogi disgyblion gyda phob agwedd o fywyd ysgol.
Dylid darparu hyfforddiant o safon uchel i gefnogi disgyblion gydag ADY yn y dosbarth. Mae hyn yn galluogi athrawon i addasu eu gweithgareddau addysgu i ddiwallu anghenion y disgyblion sydd ag ADY. Bydd disgyblion gydag ADY yn elwa o’r un cwricwlwm eang ac uchelgeisiol a’u cyfoedion. Mae hefyd yn talu i gael cyfathrebiad effeithiol gyda rhieni plentyn sydd ag ADY i sicrhau fod y rhieni’n hyderus fod pob disgybl sydd ag ADY yn derbyn y gefnogaeth effeithiol maent ei angen.
Mae darpariaeth ardderchog yn cynnwys ystod eang o ymyriadau economaidd ar gyfer disgyblion gydag ADY a disgyblion sydd angen cefnogaeth arbenigol. Er enghraifft, gweithdai sillafu a rhifau, therapi celf ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion, straeon cymdeithasol a sesiynau therapi clai ar gyfer disgyblion sydd â sgiliau motor a llawysgrifen gwan.
Mae Estyn wedi amlygu arfer effeithiol gan gydlynwyr ADY sy’n arwain ar adnabod anghenion disgyblion yn gynnar a bod y tracio a’r gefnogaeth ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion yn dechrau’n brydlon. Mae adolygiadau trylwyr o gynnydd disgyblion, yn gysylltiedig â system dracio gadarn, yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o anghenion disgyblion ymhlith staff. Cefnogir hyn drwy gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer staff i ymgysylltu mewn hyfforddiant i gefnogi llesiant ac anghenion dysgu pob disgybl ar draws yr ysgol.
Yng Nghymru, mae ysgolion yn gweithredu’r flaenoriaeth genedlaethol o ddiwygio’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY a darparu dysgu proffesiynol gwerthfawr i staff i’w cefnogi i wella eu gwaith, tra’n rhoi’r cyfleoedd iddynt i ledaenu arfer dda ar draws yr ysgol. O ganlyniad, mae bron iawn pob disgybl gydag ADY yn gwneud cynnydd da tuag at eu nodau dysgu unigol yn yr ysgolion hyn. Mae ysgolion eraill wedi datblygu proffilau un tudalen priodol ar gyfer disgyblion gydag ADY sy’n cael eu rhannu’n briodol gydag athrawon i’w cynorthwyo wrth gynllunio gwersi. Mae cymorthyddion addysgu yn chwarae rôl werthfawr i ddatblygu proffilau un dudalen disgyblion ac i osod targedau unigolyddol. Mae angen hefyd i athrawon gynllunio ar gyfer lleoli cymorthyddion addysgu yn briodol ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u rôl wrth gefnogi dysgu’r disgyblion.
Mae Ofsted ac Estyn wedi nodi ysgolion sy’n rhoi pwys ar lesiant myfyrwyr. Maent wedi amlygu adegau pan mae arweinyddion wedi buddsoddi’n sylweddol i gefnogi anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ehangach y disgyblion. Ble mae staff yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer eu llesiant eu hunain, yn ogystal â strategaethau ar sut i helpu disgyblion, mae ymwybyddiaeth gyffredin, gyda disgyblion wedyn yn teimlo’n gyfforddus i siarad gyda staff am eu teimladau a’u llesiant emosiynol sydd, yn eu tro, yn galluogi disgyblion i fagu gwytnwch emosiynol.
Mae staff hefyd yn elwa o fynychu gweithdai llesiant gan ei fod yn helpu i fagu gwytnwch. Mae’r ysgolion hyn yn deall fod staff sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn fwy tebygol o ymateb i’r heriau maent yn eu hwynebu yn eu rolau.
Mae esiamplau eraill yn cynnwys ‘hybiau llesiant’ i gefnogi disgyblion. Mae hyn yn dod â’r gwasanaethau o’r tu mewn a’r tu allan i’r ysgol at ei gilydd i gydweithio ar ran y disgyblion, er enghraifft y gwasanaeth ieuenctid a’r gwasanaeth cwnsela ysgol. Mae llesiant disgyblion yn ffynnu mewn awyrgylch meithringar ble maent yn teimlo’n ddiogel, yn saff, ac yn cael eu parchu.
Mae mwy i’w ddarllen yma:
Arweiniad Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (Cymru): https://www.gov.wales/keeping-learners-safe
Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg (Y Deyrnas Unedig): https://www.gov.uk/government/publications/keeping-children-safe-in-education–2

