Mae’r 3 mis diwethaf o adroddiadau Ofsted ac Estyn wedi gweld patrymau tebyg yng Nghymru a Lloegr. Ble mae’r arfer orau yn digwydd, mae arfer wael yn absennol o’r esiamplau hynny fel arfer. Y tro hwn, ni wnaethom sylwi ar unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng yr hyn yr oedd Ofsted ac Estyn yn ei grybwyll un eu hadroddiadau.
Presenoldeb
Nid oes yr un ffocws ar absenoldeb ag yr oedd arno cyn y Nadolig. Fodd bynnag, mae’n dal yn glir mai ble mae hyn yn llwyddiannus, mae oherwydd bod systemau datblygedig, trylwyr ac amserol a thrwyadl wedi eu rhoi yn eu lle fel bod ysgolion yn gallu sicrhau eu bod yn gwneud popeth y gallent i wella’r gefnogaeth ac i herio disgyblion i fynychu yn dda.
Efallai y bydd angen i’r gefnogaeth yma fod yn sensitif, gan gefnogi’r nifer fechan o ddisgyblion a allai fod yn ei chael yn anoddach i fynychu’r ysgol. Mae’r cymorth hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o’r ddarpariaeth sydd ei angen ar bob disgybl, gweler Darpariaeth AAA. Gyda phresenoldeb da, bydd dysgu disgyblion yn ehangu. Mae Ofsted yn nodi y dylai arweinwyr sicrhau bod ffocws craff ar helpu disgyblion i wella eu presenoldeb.
Ymddygiad
O ran ymddygiad, mae canmoliaeth i ysgolion am fod â disgwyliadau uchel ar gyfer ymddygiad a phresenoldeb disgyblion. Ble mae ethos yr ysgol yn cael ei fodelu a’i arddangos gan staff, ac yn cael ei orfodi gyda systemau a pholisïau cadarn, mae disgyblion, yn eu tro, yn garedig a pharchus ac mae ymddygiadau gwael yn anghyffredin iawn.
Mae angen strategaethau clir ar ysgolion i reoli ymddygiad plant. Er enghraifft, mae tynnu sylw plant yn sydyn ac yn fedrus yn eu helpu i reoli eu hemosiynau.
Gall absenoldeb hyn olygu bod disgyblion yn gweld bywyd ysgol yn heriol, ac yn petruso wrth adrodd am achosion o fwlio. Dylai arweinwyr godi’r disgwyliadau o ymddygiad disgyblion a sicrhau bod staff yn rheoli ymddygiad gyda thegwch a chysondeb. Bydd hyn yn helpu i dawelu meddwl disgyblion. Mae angen i ddisgyblion weld fod ymddygiad yn cael ei ddelio ag ef er mwyn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel. Mae mor bwysig i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol, yn enwedig os nad yw’r bywyd yn y cartref yn le diogel.
Llywodraethwyr
Mae gan lywodraethwyr rôl i chwarae y tu ôl i’r llenni, gan sicrhau eu bod yn goruchwylio’r gwaith mwyaf hanfodol, yn enwedig mewn perthynas â phriodoldeb ariannol a diogelu. Mae angen iddynt ddal arweinwyr yn atebol a derbyn hyfforddiant penodol. Mae angen iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau nad ydynt yn gor-ddibynnu ar y wybodaeth a ddarperir gan y pennaeth.
Yng Nghymru, mae’r ffocws i raddau helaeth ar a yw’r Llywodraethwyr yn gwneud trefniadau priodol i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach yn yr ysgol a defnyddio eu grant datblygu disgyblion yn effeithiol. Er enghraifft, fod disgyblion sydd angen ymyriadau wedi’u teilwra i wella eu dysgu neu lesiant yn cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Mae ymagwedd gynhwysol yr ysgol yn sicrhau fod disgyblion agored i niwed yn cael mynediad i deithiau preswyl na fyddent yn cael y cyfle i’w profi fel arall, neu yn cael ei ddefnyddio i ddarparu sesiynau therapi chwarae buddiol i gefnogi llesiant disgyblion.
Llais y Disgybl
Mae adroddiadau diweddar Ofsted yn nodi‘r ffaith fod disgyblion yn teimlo’n ddiogel pan maent yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Dylid bod ystod o systemau cyfathrebu a gwahanol ddulliau i gyfathrebu, sy’n cael eu defnyddio’n effeithiol er mwyn i blant allu lleisio eu barn yn weithredol. Mae esiamplau’n cynnwys cyfarfodydd grŵp, trafodaethau un i un, a ‘bocs post’ di-enw ble gallent wneud awgrymiadau.
Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb
Oherwydd y newidiadau diweddar, mae Addysg Personol, Cymdeithasol, Iechyd ac Economaidd (‘PSHE’) / Addysg Cydberthnasedd a Rhywioldeb (‘RSE’) yn parhau i fod yn bwnc llosg. Ble mae’r arfer yn dda, mae cynnig datblygiad personol cynhwysfawr gyda gwersi pwrpasol wedi’u hamserlennu. Mae rhaglenni llwyddiannus yn cynnwys themâu pwysig sy’n cael effaith bositif ar iechyd a llesiant, megis ymarfer corff, bwyta ac yfed yn iach a iechyd rhyw, yn ogystal ag effaith niweidiol dewisiadau ffordd o fyw ac ymddygiadau megis camddefnydd sylweddau. Cyfoethogir ddarpariaeth dda gan ymweliadau gan ddarparwyr allanol a siaradwyr arbenigol. Mae Diogelwch ar y Wê yn cael llawer o sylw, fel y gwna pwyslais ar addysg bersonol a chymdeithasol sy’n datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u llesiant yn llwyddiannus. Er enghraifft, galluogi disgyblion i dynnu ar strategaethau penodol fel technegau cefnogaeth pan maent yn wynebu gwaith mwy heriol, sy’n sgaffaldu eu llesiant emosiynol yn effeithiol. Mae’n bwysig bod disgyblion yn dysgu am edrych ar ôl eu hiechyd meddwl, peryglon casineb at wragedd a sut i ddatblygu perthnasoedd iach. Dylid ystyried peryglon yn yr ardaloedd lleol hefyd, ac hefyd pynciau megis perthnasoedd niweidiol, pwysau cyfoedion a chamddefnydd sylweddau.
Mae ‘PSHE’ yn dod yn aneffeithiol pan nad oes dilyniant da ar draws yr holl grwpiau blwyddyn, fydd yn arwain at ddisgyblion yn methu adalw gwybodaeth bwysig megis gwybodaeth am werthoedd Prydeinig a pherthnasoedd positif. Mae angen i arweinwyr sicrhau fod disgyblion ym mhob blwyddyn ysgol yn elwa o raglen datblygiad personol o safon uchel sy’n eu harfogi i fod wedi eu paratoi yn dda ar gyfer bywyd yn y Brydain fodern. Arfer dda yw ble mae Arweinwyr yn sicrhau bod datblygiad personol disgyblion yn greiddiol i bopeth maent yn ei wneud a bod pob disgybl yn dysgu am berthnasoedd iach mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran. Pan nad yw ‘PSHE’ ar ei orau, mae gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o gydraddoldeb, amrywiaeth a materion byd-eang yn gyfyngedig.
Fel y crybwyllwyd uchod, mae Estyn wedi rhoi rhan sylweddol o’u harsylwadau ar Ffyrdd Iach o Fyw dros y misoedd diwethaf. Mae arfer orau yn galluogi disgyblion i gael dealltwriaeth dda o bwysigrwydd bwyta ac yfed yn iach a dealltwriaeth o fuddion ymarfer corff ar eu hiechyd. Bydd ysgolion o’r fath yn darparu ystod eang o weithgareddau corfforol allgyrsiol. Mae canmoliaeth i ysgolion cynradd am ddisgyblion sy’n adnabod yr angen i lanhau eu dannedd yn rheolaidd, ac yn siarad yn feddylgar am bwysigrwydd deiet sydd ddim yn cynnwys gormod o fwyd sydyn. Dylai disgyblion wybod pam ei bod yn bwysig i wneud penderfyniadau iach ac yn deall effaith bwyta deiet cytbwys ac yfed dŵr ac yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau iach yn ystod y diwrnod ysgol.
Perthnasoedd Disgyblion / Staff
Mae pwyslais mewn llawer o adroddiadau ar y perthnasoedd rhwng staff a disgyblion. Yn ganolog i hyn mae’r pwysigrwydd bod arweinwyr a staff yn adnabod y disgyblion a’r cymunedau maent yn byw ynddynt yn dda iawn. Mae’n talu i fod yn effro i beryglon y gall disgyblion eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Gallent adrodd wedyn ar yr arwyddion a allai ddangos bod disgybl mewn perygl o niwed. Mae arweinwyr sy’n gweithio’n dda gydag ystod o asiantaethau yn sicrhau fod disgyblion a’u teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth maent ei angen.
Mae gan ysgolion da staff sy’n fedrus mewn cyfathrebu gyda phlant. Maent yn deall y rhwystrau mae plant yn eu profi wrth geisio dilyn trefn arferol a gorfod prosesu gwybodaeth newydd. Dylai’r holl staff fod yn amyneddgar ac yn feithringar pan yn gweithio gyda phlant a bod yn fodelau rôl positif a hyrwyddo a chynnal safonau da o ymddygiad. Mae’r perthnasoedd hyn yn cefnogi llesiant y disgyblion yn uniongyrchol. Gyda perthnasoedd cryf, bydd disgyblion yn gyfforddus ac yn hyderus i rannu pryderon gyda staff pan mae plant yn poeni neu wedi cynhyrfu, a bydd ymddygiad ac agweddau plant tuag at eu dysgu yn dda.
Mae cymryd amser i ddarganfod am brofiadau’r plant a sut mae eu hanghenion unigol yn effeithio ar sut maent yn teimlo yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad perthnasoedd ymddiriedus rhwng plant a staff. Mewn ysgolion arbennig, canfuwyd bod y staff yn defnyddio eu perthnasoedd positif gyda’r plant i’w helpu i reoli eu pryderon a’u rhwystredigaethau. O ganlyniad, does dim achosion o ataliaeth gorfforol. Mae plant yn gallu adlewyrchu ar eu hymddygiadau a’u gweithrediadau, a siarad gyda staff am sut roeddent yn teimlo a pha ymatebion oedd o gymorth iddynt i’w helpu i reoli eu hemosiynau yn well.
Diogelu
Mae arweinwyr tra wybodus yn sicrhau fod gan yr holl staff wybodaeth diogelu sy’n benodol ac yn gyfredol.
Adroddir ar bryderon yn brydlon, gydag arfer gyflym yn gweld Llywodraethwyr ac Arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd o fewn y system ysgol gyfan sy’n drwyadl ac yn gweithio’n dda i sicrhau bod yr holl brosesau recriwtio diogelach priodol yn cael eu cwblhau’n drylwyr.
Mae’n talu i arweinwyr adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda ac i fod yn wyliadwrus o unrhyw newidiadau yn ymddygiad disgyblion unigol a’r arwyddion a allai awgrymu y gallai disgybl fod mewn perygl o niwed.
Mae hyfforddiant yn elfen allweddol o’r arfer orau mewn diogelu. Dylai’r holl staff dderbyn hyfforddiant a diweddariadau rheolaidd mewn diogelu a bod wedi eu hyfforddi’n dda yng ngweithdrefnau diogelu’r ysgol fel bod y cadw cofnodion yn fanwl a’r camau gweithredu i ddiogelu disgyblion yn amserol. Dylai’r hyfforddiant hefyd fod yn benodol er mwyn diwallu anghenion canfyddedig y plant. Er enghraifft, hyfforddiant ar sut i atal plant sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth rhag cael eu hecsbloetio a’u radicaleiddio. Dylid ysgrifennu polisïau diogelu ysgolion yn unol â’r arweiniad statudol diweddaraf a dylent fod ar gael ar-lein.
Dylai’r cofnodion roi arwydd clir o’r risgiau posibl a’r camau gweithredu sydd wedi cymryd lle mewn ymateb, a dangos y bydd uwch arweinwyr yn herio gweithwyr proffesiynol eraill yn gadarn pan maent yn canfod nad ydynt yn cyfarfod eu cyfrifoldebau. Mae arweinwyr, fel arfer, yn dilyn i fyny ar unrhyw bryderon yn brydlon gydag asiantaethau allanol ac yn cadw cofnodion manwl gywir o unrhyw atgyfeiriadau. Mae cyfathrebu da gyda gweithwyr proffesiynol allanol yn sicrhau bod risgiau’n cael eu rhannu, a strategaethau’n cael eu dyfeisio a’u dosbarthu.
Amlygir ddiogelu gwael pan nad oedd asiantaethau diogelu allanol wedi eu hymgynghori pan ddylent, uwch arweinwyr yn methu rheoli pryder yn briodol, neu bod peryglon e.e. drysau tân sydd ddim yn cau’n iawn, neu gebl estyniad trydan, oedd wedi ei blwgio i mewn a’i droi ymlaen, yn eistedd ar dapiau’r sinc.
Mae’n rhaid i’r systemau ar gyfer cofnodi pryderon diogelu helpu gyda chofnodi pryderon lefel isel ynghylch arfer aelodau staff unigol. Dylid cefnogi’r Person Dynodedig Diogelu (PDD) i ddadasoddi gwybodaeth er mwyn gallu adnabod patrymau posib o ymddygiad anaddas, problemus neu sy’n achosi pryder.
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA / ‘SEN’)
Mewn ysgolion da, mae arweinwyr yn hynod uchelgeisiol dros ddisgyblion gydag anghenion addysgu arbennig ac anableddau. Maent yn gyflym i adnabod unrhyw ddisgyblion gydag AAA ac yn darparu’r gefnogaeth maent ei angen yn y dosbarth i gael mynediad i’r cwricwlwm llawn. Mae tracio a monitro cynnydd disgyblion yn ofalus yn sicrhau bod gan pob disgybl dargedau penodol sy’n cael eu hadolygu a’u gwerthuso’n rheolaidd. Maent yn adnabod ac yn cynllunio ystod o raglenni llythrennedd, rhifedd a chymdeithasol a phersonol effeithiol i gefnogi disgyblion. Gellir rhannu’r cwricwlwm i gamau hydrin, gan ddefnyddio strategaethau priodol i gefnogi dysgu disgyblion, a dylai cymorthyddion dysgu gefnogi disgyblion yn dda ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Dylid darparu hyfforddiant o safon uchel i gefnogi disgyblion gydag AAA yn y dosbarth. Mae hyn yn galluogi athrawon i addasu eu gweithgareddau addysgu i gyfarfod anghenion y disgyblion sydd ag AAA . Bydd y disgyblion gydag AAA yn elwa o’r un cwricwlwm eang ac uchelgeisiol a’u cyfoedion.
Mae’n talu i gael cyfathrebiad effeithiol gyda rhieni sydd â phlentyn gydag AAA i sicrhau hyder y rhieni fod pob plentyn gydag AAA yn derbyn y gefnogaeth effeithiol sydd ei angen arnynt.
Mae darpariaeth ardderchog yn cynnwys ystod eang o ymyriadau cyfoethogi ar gyfer disgyblion gydag ADY a disgyblion sydd angen cefnogaeth arbenigol. Er enghraifft; gweithdai sillafu a rhifau, therapi celf ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion, straeon cymdeithasol a sesiynau therapi clai ar gyfer disgyblion sydd â sgiliau echddygol a llawysgrifen gwan.
Mae Estyn wedi amlygu arfer effeithiol drwy gydlynwyr AAA sy’n arwain ar adnabod anghenion disgyblion yn fuan, ac i dracio a chefnogaeth ar gyfer unigolion a grwpiau o ddisgyblion gychwyn yn brydlon. Mae adolygiadau cynnydd disgybl trylwyr, wedi eu cysylltu i system dracio gadarn, yn arwain i ddealltwriaeth ddofn o anghenion disgyblion ymhlith staff. Cefnogir hyn gyda chyfleoedd gwerthfawr i staff i ymgysylltu mewn hyfforddiant i gefnogi llesiant ac anghenion dysgu pob disgybl ar draws yr ysgol.
Yn Nghymru, mae ysgolion yn llwyddo i weithredu y flaenoriaeth genedlaethol o ddiwygio darpariaeth ar gyfer plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY / ‘ALN’) a darparu staff gyda dysgu proffesiynol gwerthfawr i’w cefnogi i wella eu gwaith, a chyfleoedd defnyddiol i staff i rannu arfer dda ar draws yr ysgol. O ganlyniad, mae bron pob disgybl gydag ADY yn gwneud cynnydd da tuag at eu nodau dysgu unigol yn yr ysgolion hyn. Mae ysgolion eraill wedi datblygu proffiliau un tudalen addas ar gyfer disgyblion gydag ADY sydd yn cael eu rhannu’n briodol gydag athrawon i gefnogi eu cynllunio gwersi. Mae cymorthyddion addysgu yn chwarae rôl werthfawr yn natblygiad proffiliau un dudalen disgyblion ac wrth osod targedau unigol. Mae angen hefyd i athrawon gynllunio ar gyfer lleoliad y cymorthyddion dysgu yn ddigon da ac i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw eu rôl wrth gefnogi dysgu disgyblion.
Llesiant
Mae Ofsted ac Estyn wedi nodi ysgolion sy’n rhoi pwys ar les myfyrwyr. Maent wedi amlygu achosion ble mae Arweinwyr wedi buddsoddi yn sylweddol mewn ceisio cefnogi anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ehangach disgyblion. Ble mae staff wedi derbyn hyfforddiant a chefnogaeth o gwmpas eu llesiant eu hunain yn ogystal â strategaethau ynghylch sut i helpu plant, mae ymwybyddiaeth gyffredin ac mae’r plant yn teimlo’n gyfforddus i siarad gyda staff em eu teimladau a’u llesiant emosiynol sydd, yn ei dro, yn helpu plant i adeiladu gwytnwch emosiynol. Mae staff hefyd yn elwa o fynychu gweithdai llesiant gan ei fod yn helpu i adeiladu eu gwytnwch, ac mae’r ysgolion hyn yn sylweddoli bod staff sy’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy tebygol o ymateb i’r heriau y gallent eu profi yn eu rôl.
Mae esiamplau eraill yn cynnwys ‘hybiau llesiant’ i gefnogi disgyblion. Mae hyn yn dod â gwasanaethau o’r tu mewn a’r tu allan i’r ysgol at ei gilydd, i gydweithio ar ran y disgyblion, er enghraifft y gwasanaeth ieuenctid a’r gwasanaeth cwnsela ysgol. Mae llesiant disgyblion yn ffynnu mewn amgylchedd meithringar ble maent yn teimlo’n ddiogel, yn saff ac yn cael eu parchu.
