Anwythiad Diogelu ar gyfer Staff: Werth ei wneud neu dim ond ymarfer tic mewn blwch?

Pan fyddai’n cynnal awdit ar gyfer ysgolion, byddaf yn cwblhau ymarfer ysgrifenedig ac yn dilyn hyn drwy siarad gyda staff a myfyrwyr i gael darlun llawn o ddiogelu o fewn y sefydliad. Yn ystod fy ymweliadau y llynedd, gofynnais i’r staff beth roeddent yn ei feddwl am eu hanwythiad i systemau diogelu’r ysgol. Roedd yr ymateb i hyn yn ddryslyd, gyda rhai staff yn gofyn, “pa anwythiad diogelu?” Dim ond hyfforddiant cyffredinol ar weithdrefnau diogelu ar ddechrau’r flwyddyn yr oeddent wedi ei dderbyn. Nid oeddent wedi cael gwybod am sut i adrodd ar bryderon neu pwy oedd yr Arweinydd Diogelu Dynodedig (ADD) / Person Dynodedig Diogelu (PDD)*, ond roeddent yn gwybod am pa arwyddion i edrych amdanynt, diolch am hynny.

Mewn ysgol arall, soniodd aelod staff ei fod wedi ymuno â’r ysgol ym mis Ionawr, ac wedi derbyn sesiwn 3 awr gyda’r ADD. Ar y pryd, roedd yn dechrau meddwl pa fath o sefydliad yr oedd wedi derbyn swydd ynddo! Ond, wrth siarad gydag ef flwyddyn yn ddiweddarach, dywedodd ei fod yn teimlo’n hollol barod i ddelio gydag unrhyw bryder oedd ganddo am blentyn ac roedd yn ddiolchgar am yr anwythiad trylwyr. 

Dyma union bwrpas anwythiad ar gyfer staff newydd. O weithdrefnau tân i systemau rheoli ymddygiad, mae’n rhaid i staff newydd mewn unrhyw ysgol neu sefydliad wybod sut i wneud pethau yn y ffordd gywir a gwybod beth yw gweithdrefnau eich ysgol. Fel rhan o rôl pawb, dylai anwythiad diogelu edrych ar bwysigrwydd diogelu a sut i adrodd ar unrhyw bryderon mor fuan a phosibl, yn cynnwys pryderon yn ymwneud â staff (yn enwedig y rhai lefel-is).

Mae sut y gwneir hyn yn amrywio o ysgol i ysgol, boed yr ysgol ar system bapur neu system electronig. Mae cwestiynau’n codi megis: pwy ydi’r ADD/PDD a’r dirprwy ADD/PDD? Beth ddylai staff ei wneud os yw’r plentyn yn dod yn ôl atynt eto gyda mwy o bryderon? Beth ddylai staff ei wneud os oes neb ar gael, e.e. yn hwyr ar nos Fawrth ar ôl digwyddiad chwaraeon ysgol? Pa gefnogaeth sydd ar gael i staff sydd wedi derbyn datgeliad? Beth yw’r manylion cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion? Dylid darparu esiamplau di-enw o achosion sydd wedi digwydd yn yr ysgol a sut dylid delio â hwy.

Y mwyaf yr ydych yn cefnogi ac yn darparu eich staff pan maent yn cyrraedd eich ysgol, y gorau. Mae hyn wedyn yn rhoi’r hyder iddynt i ddelio gydag unrhyw bryderon sy’n codi’n annisgwyl.

Hyd yn hyn, rydym wedi trafod anwytho staff, ac fe ddylai fod yr un fath ar gyfer gwirfoddolwyr a staff llanw ag ydyw ar gyfer staff parhaol.

Ond, mae rhai cwestiynau pellach i’w gofyn:

  • Sut ydych chi’n anwytho’r disgyblion?
  • Sut ydych chi’n eu gwneud yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt?
  • Sut ydych chi’n cael gwared o’r rhwystrau i ddatgelu?
  • Ydych chi’n gofyn i ddisgyblion beth sy’n gwneud iddynt deimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac, yn benodol, beth sy’n gwneud iddynt deimlo’n anniogel?

Ond drwy ofyn y cwestiynau hyn y gallwn ni arfu ein disgyblion gyda’r wybodaeth ynghylch eu diogelwch a’u llesiant ac, fel eich staff, y byddant yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus i agor i fyny i staff.  

* Yn Lloegr, mae gan ysgolion Arweinydd Dynodedig Diogelu, tra yng Nghymru, y term a ddefnyddir yw Person Dynodedig Diogelu.

Dolenni Defnyddiol

Gweithdrefnau diogelu

Gwasanaethau plant ac oedolion

Pwysigrwydd diogelu

Scroll to Top