
Cyrsiau Diogelu
Hyfforddiant Diogelu Jane Ashman – Gwasanaethau
Mae’r cyrsiau rwyf yn eu cynnal yn addas ar gyfer unrhyw un ble mae rhan o’u rôl yn golygu ymgymryd â gweithio neu ryngweithio gyda phlant. Datblygir yr hyfforddiant fel pecyn sydd wedi ei deilwra ar gyfer cynulleidfa a lleoliad yr hyfforddiant.
Mae gwahanol systemau Diogelu Plant yng Nghymru a Lloegr ac fe allaf ddarparu ar gyfer y ddwy system yma gan addasu’r cynnwys i adlewyrchu anghenion penodol y gynulleidfa. Mae dau prif fath o gwrs:
Agored – mae’r rhain yn agored i unrhyw un a byddant yn cael eu cynnig mewn lleoliadau sydd wedi’u gosod.
Caeëdig – ble mae sefydliad neu gorff yn gofyn am sesiwn wedi’i theilwra i ymateb i alw penodol neu gyfle dysgu penodol. Mae hyn yn ei gwneud yn bosib i deilwra’r sesiwn yn benodol ar gyfer eu hanghenion.
Nid oes lefelau penodol ar gyfer y cyrsiau gan bod y rhain i gyd yn unigol ar gyfer polisi pob sefydliad. Felly, yn ystod fy hyfforddiant, byddwn yn canolbwyntio mwy ar y cynnwys ac ar sicrhau fy mod yn cynnwys yr holl feysydd mae’r rhai sy’n mynychu angen teimlo’n hyderus amdanynt er mwyn cyflawni’r rôl mae gofyn iddynt ei gwneud. Gellir cynnig yr holl hyfforddiant trwy Zoom os yw’n well gennych.
Hyfforddiant ar gyfer yr holl staff (para 3 a hanner awr)
Y prif bwynt cychwynnol ar gyfer hyfforddiant yw i sicrhau fod eich holl staff / gwirfoddolwyr yn ymwybodol o ac yn deall y canlynol:
- Trosolwg o’r deddfau a’r arweiniad perthnasol
- Mathau gwahanol o gamdriniaeth (y prif fathau a phryderon diogelu penodol)
- Arwyddion a symptomau o gamdriniaeth
- Cofnodi gwybodaeth
- Dulliau cyfeirio / adrodd
- Dilyn i fyny
- Adrodd ar honiadau yn erbyn staff / gwirfoddolwyr
Dylid darparu’r cwrs hwn ar gyfer yr holl staff / gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant.
Gweithio Aml-asiantaeth (para 3 a hanner awr)
Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio ar gyfer staff fydd yn cymryd rhan mewn gwaith aml-asiantaeth yn cynnwys cyfeiriadau a chyfarfodydd:
- Dealltwriaeth wedi’i dargedu o’r deddfau a’r arweiniad
- Mathau gwahanol o gamdriniaeth (prif fathau a phryderon diogelu penodol)
- Cyfeirio / dulliau adrodd gydag asiantaethau eraill.
- Y broses Ddiogelu Plant (cyfarfod neu drafodaeth strategaeth, ymchwiliad s47, cynadleddau achos, grwpiau craidd)
- Cynnydd mewn pryderon
- Rheoli honiadau yn erbyn staff / gwirfoddolwyr
Person Dynodedig Diogelu PDD (yng Nghymru) neu’r Designated Safeguarding Lead DSL (yn Lloegr) (para 6 awr)
Mae’r cwrs hwn wedi ei dargedu ar gyfer staff sydd yn, neu fydd yn fuan yn, PDD / DSL neu’n Ddirprwy PDD / DSL:
- Dealltwriaeth benodol o ddeddfau ac arweiniad diogelu
- Mathau gwahanol o gamdriniaeth (y prif fathau a phryderon diogelu penodol)
- Cadw cofnodion a gweithdrefnau awdit
- Gweithio aml-asiantaeth
- Dylunio’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod diogelu’n cael ei ddarparu’n effeithiol
- Rôl y Llywodraethwr Dynodedig ac adrodd blynyddol i’r llywodraethwyr
- Arolygiadau ysgol gan Estyn neu Ofsted
- Rheoli honiadau yn erbyn staff
Hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr a Staff Ysgolion / Colegau yng Nghymru ar sut i ddelio â honiadau o gamdriniaeth yn erbyn staff (para 2 awr)
Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer Penaethiaid, Personau Dynodedig Diogelu, Dirprwy Bersonau Dynodedig Diogelu a holl Lywodraethwyr. Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Dealltwriaeth benodol o’r deddfau cyfredol a’r arweiniad parthed honiadau yn erbyn staff.
- Y gwahanol gamau wrth reoli honiad, o’r pryder yn cael ei adrodd i chi drwodd i’r amser yn dilyn y gwrandawiadau disgyblu.
- Rolau a Chyfrifoldebau
- Cadw cofnodion a gweithdrefnau awdit
- Gweithio aml-asiantaeth
- Rheoli Honiadau a Gweithdrefnau Disgyblu, gwersi y gallwn eu dysgu.
Hyfforddiant Recriwtio Mwy Diogel (Gydag Achrediad y Safer Recruitment Consortium) (para diwrnod)
Mae profiad dros flynyddoedd lawer wedi dangos ei fod yn bwysig i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant ymgorffori i mewn i’w gweithdrefnau recriwtio a dewis, fesurau sydd yn cynorthwyo i atal, i wrthod ac i adnabod pobl a allai gam-drin plant, neu sydd am reswm arall yn anaddas i weithio gyda hwy. Mae gwneud diogelu a hybu llesiant plant yn rhan annatod o reolaeth adnoddau dynol (AD) mewn sefydliadau sy’n gweithio â phlant yn rhan hanfodol o greu amgylcheddau diogel. Amlygwyd hyn gan achos Soham a’r canfyddiadau a’r argymellion o fewn adroddiad Sir Michael Bichard i’r achos hwnnw (2004).
Mae’r gweithdy recriwtio mwy diogel yn anelu i:
- Roi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o ymddygiad troseddwr.
- Adnabod nodweddion allweddol recriwtio staff sydd yn helpu i atal neu rwystro penodi pobl anaddas.
- Ystyried polisïau ac arferion sy’n lleihau’r cyfleoedd i gam-drin neu’n sicrhau ei fod yn cael ei adrodd amdano’n sydyn.
- Archwlio’r elfennau sy’n cyfrannu i ddiwylliant o wyliadwriaeth barhaus
- Helpu’r cyfranogwyr i ddechrau adolygu eu polisïau a’u harferion eu hunain a pholisïau ac arferion eu sefydliad, gan edrych i’w gwneud yn ddiogel.
Mae’n cael ei ddarparu drwy bedwar modiwl, pob un yn adeiladu ar gynnwys a dealltwriaeth o’r modiwl blaenorol.
Modiwl un: gosod y cyd-destun
Yn y sesiwn yma edrychwn ar sut mae recriwtio mwy diogel yn ffitio o fewn cyd-destun ehangach diogelu a hybu lles plant. Rydym yn ystyried graddfa’r cam-driniaeth, rhai agweddau o nodweddion y cam-drinwyr ac yn manylu ynghylch sut mae’r rhai sy’n cam-drin plant yn rhywiol yn gweithredu’n nodweddiadol o fewn sefydliadau, gan berthnasu hynny i recriwtio.
Modiwl dau: proses recriwtio mwy diogel
Mae’r sesiwn yma yn edrych ar bwysigrwydd ymarfer cynllunio a recriwtio, gan yrru’r negeseuon cywir i’r ymgeiswyr posib, gan ddilyn proses sy’n gyson a thrylwyr i gael y wybodaeth berthnasol am bob ymgeisydd a llunio rhestr-fer o’r ymgeiswyr i’w cyfweld.
Modiwl tri: gwneud y penderfyniadau cywir – neu’r gost o’i gael yn anghywir!
Mae’n bwysig iawn gwneud y penderfyniadau recriwtio cywir fel nad yw’r rhai hynny sydd ddim yn addas i weithio â phlant, efallai oherwydd nad oes ganddynt y sgiliau neu’r ymagwedd iawn, neu’r achosion gwaethaf oherwydd bod eu cymhellion dros weithio gyda phlant yn achosi pryder, yn cael y cyfle i gael mynediad at blant. Fel ddywedodd Bichard yn 2004, ein gwaith ni yw ei gwneud hi mor anodd â phosib i unigolion cyfrwys lwyddo. Mae’r penderfyniadau wnawn ni yn ystod y cam recriwtio yn allweddol i hyn.
Modiwl pedwar: diwylliant o wyliadwriaeth barhaus
Mae’r sesiwn yma yn archwilio’r angen am ymwybyddiaeth a gwyliadwriaeth barhaus ac yn ystyried sut y gall sefydliadau ddatblygu a chynnal amgylchedd sydd yn atal ac yn rhwystro cam-driniaeth ac yn herio ymddygiad anaddas.
Pan mae sefydliadau’n archebu sesiwn gaeëdig yna gellir cynnwys meysydd eraill maent eu hangen, er enghraifft recriwtio mwy diogel, côd ymddygiad staff neu weithdrefnau ac ymchwiliadau disgyblu. Os ydych chi’n awyddus i symud ymlaen gyda chwrs hyfforddi yna cysylltwch â mi i drafod eich anghenion er mwyn i ni ddiffinio cynnwys a strwythur y cwrs.

